nadi dwi'm yn meddwl o be dwi'n gofio......to'n i ddim yn yfed
hihi. Dwi 'di cal un ne ddwy yn ormod heno i gompensetio ddo!
mmm Krakow yn lyfli! To copr ar yr eglwys yno, odd yn aur-ish(?!) wel gwyrdd odd o, ond odda nw ar ganol i newid o!
wwwwww newydd gofio, Oswiecim (os na dyna sud ma'i sillafu fo...dwi'n gwbod bod na acenion ar goll). ta waeth, fan'na mae camp Auschwitz. Lle erchyll, ond dwi'n meddwl y dylsa pawb fynd yna unwaith. Dwi'm yn meddwl yr ai 'nol chwaith. Ddim yn rhy bell o Krakow os dwi'n cofio'n iawn. wwwww a hefyd ma 'na chwareli halen GWERTH CHWEIL o dan y ddaear yn Krakow (dwin meddwl ma Krakow...) ta waeth, odd na bobl 'di bod yn cerflunio o'r graig halen ag odd y capel mwya', tanddearol (neu ryw record gyffelyb) yno. A roedd pobl yn dal i briodi yno a ballu. WErth bob ceiniog. A ma aer hallt yn dda iawn i chi mae'n debyg!
os gofiai am fwy, biciai draw yma!