Gwlad Pwyl - lle i fynd a ballu?!

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwlad Pwyl - lle i fynd a ballu?!

Postiogan margiad ifas » Gwe 15 Gor 2005 10:11 pm

ma mam a dad ffansi mynd i wlad pwyl am 'chydig ddyddia, sgen rhywun unrhyw gyngor ynglyn a pha ran di'r gora, enwau gwestai + lle ddyla nhw ymweld (ddaru nw sôn unwaith am fynd i weld ryw gapel oedd wedi ei adeiladu o aur :? :rolio: ?),

diolch o galon, m*
*Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau’r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a’i swyn. . .*
Rhithffurf defnyddiwr
margiad ifas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 156
Ymunwyd: Iau 16 Meh 2005 10:51 pm
Lleoliad: Cwmllynfell

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 15 Gor 2005 10:58 pm

Dylai Tegwared ap Seion allu dy helpu efo hynna. Hasla fo ;)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan huwcyn1982 » Gwe 15 Gor 2005 11:03 pm

Krakow (yn enwedig eglwys y santes fair), Zakopane (mynyddoed a golygfeydd arbennig), Warsaw (prif-ddinas wedi'u ail-adeiladu ar ol yr ail-rhyfel byd, palas ardderchog, a 'Stalin's Shadow')
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan krustysnaks » Sad 16 Gor 2005 12:12 am

Dwi'n mynd i Grakow ac i Zakopane mewn rhyw wythnos neu ddwy efo cerddorfa'r hen Ddyfed. Faswn i'n gofyn am syniadau, ond dwi'n meddwl bod itinerary eitha tynn ganddon ni.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Llyfwr Pwdin Blew » Iau 21 Gor 2005 1:07 pm

Zakopane yn le bendigedig. Byddwch yn ofalus wrth yfed y cwrw yno - tua 8% o be fedrai gofio, ac ar uchder o 1000m mae'n mynd ir pen!
Rhithffurf defnyddiwr
Llyfwr Pwdin Blew
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 239
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 10:43 am
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan prôn pinc » Iau 21 Gor 2005 1:09 pm

rhywun yn gwbo be 'di'r oed yfed yng ngwlad Pwyl?
Rhithffurf defnyddiwr
prôn pinc
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 66
Ymunwyd: Maw 14 Meh 2005 4:58 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan margiad ifas » Iau 21 Gor 2005 11:17 pm

glywish i gan y mrawd unwaith mai dim ond tua 15c odd peint yno?? Di hyn dal yn wir dwch :rolio: :?:
*Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau’r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a’i swyn. . .*
Rhithffurf defnyddiwr
margiad ifas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 156
Ymunwyd: Iau 16 Meh 2005 10:51 pm
Lleoliad: Cwmllynfell

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 21 Gor 2005 11:25 pm

nadi dwi'm yn meddwl o be dwi'n gofio......to'n i ddim yn yfed :( hihi. Dwi 'di cal un ne ddwy yn ormod heno i gompensetio ddo! :winc:

mmm Krakow yn lyfli! To copr ar yr eglwys yno, odd yn aur-ish(?!) wel gwyrdd odd o, ond odda nw ar ganol i newid o!

wwwwww newydd gofio, Oswiecim (os na dyna sud ma'i sillafu fo...dwi'n gwbod bod na acenion ar goll). ta waeth, fan'na mae camp Auschwitz. Lle erchyll, ond dwi'n meddwl y dylsa pawb fynd yna unwaith. Dwi'm yn meddwl yr ai 'nol chwaith. Ddim yn rhy bell o Krakow os dwi'n cofio'n iawn. wwwww a hefyd ma 'na chwareli halen GWERTH CHWEIL o dan y ddaear yn Krakow (dwin meddwl ma Krakow...) ta waeth, odd na bobl 'di bod yn cerflunio o'r graig halen ag odd y capel mwya', tanddearol (neu ryw record gyffelyb) yno. A roedd pobl yn dal i briodi yno a ballu. WErth bob ceiniog. A ma aer hallt yn dda iawn i chi mae'n debyg!

os gofiai am fwy, biciai draw yma! :winc:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan margiad ifas » Sad 23 Gor 2005 12:15 am

Ti di bod yno dipyn o weithiau Tegwared? Sgen ti luniau? 8)
*Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau’r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a’i swyn. . .*
Rhithffurf defnyddiwr
margiad ifas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 156
Ymunwyd: Iau 16 Meh 2005 10:51 pm
Lleoliad: Cwmllynfell


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron