Tudalen 1 o 1

Bilbao am ddiwrnod

PostioPostiwyd: Sul 17 Gor 2005 10:56 am
gan Fflamingo gwyrdd
Mae gen i ddiwrnod rhydd i'w dreulio ym Milbao wythnos nesaf...oes gan unrhywun awgrym o beth ddylwn i ei wneud yno? 8)

PostioPostiwyd: Sul 17 Gor 2005 11:14 am
gan Aran
Dim syniad - ond rho wybod sut aiff o, oherwydd yn fan'na bydd Catrin a finnau ym mis Awst!

Clywed bod y Guggenheim yn haeddu sylw...

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 8:59 am
gan sanddef
Dos i'r casco (hen rhan beddestrig y ddinas) a chwilio am y dafarn fach Gure Etxea (Ein Ty) a dweud hylo oddi wrthyf (a 'mod i wedi dychwelyd i Gymru, nes i adael hysbysiad yno pan o'n i'n chwilio am lety). :P

PostioPostiwyd: Llun 18 Gor 2005 9:45 am
gan Nei
Cer i ymweld ag amgueddfa Jugenheim a mynd i chwilio am far sydd gwerthu Pacharan ar ol ny.

PostioPostiwyd: Mer 20 Gor 2005 3:50 pm
gan sanddef
Nei a ddywedodd:Cer i ymweld ag amgueddfa Jugenheim a mynd i chwilio am far sydd gwerthu Pacharan ar ol ny.


Mae pob bar yn Euskadi'n gwerthu patxaran. Hefyd y maent yn gwerthu zurritos, sef chwarter peint o gwrw.