Dwi'n ystyried y posibilrwydd o fynd i Cyprus, ond yn ystod mis Tachwedd yn hytrach na'r tymor gwyliau arferol.
Oes unrhyw un yn gwybod os oes flights rhad i gael i Cyprus, o Gaerdydd yn ddelfrydol (dim ots gen i newid yn Amsterdam neu rhywle tebyg).
Hefyd, os ydych wedi bod i Cyprus o'r blaen, shwt lle yw e, a beth sydd i wneud yno?
Dwi wedi clywed rhywle fod ganddynt bolisi zero-tolerance tuag at gyffuriau. Ydy hyn yn effeithio ar argaeledd gwyrdd ar ynys Aphrodite?
Diolch