Dwi'n trio cynllunio sut i drafeilio i'r 'steddfod fel allai mynd i barti trigolion maes-e, a sidro o ni os oedd unrhywun yn gallu fyng nghynghori or ffordd hawsa i drafeilio ar cludiant cyhoeddus? (os yw hyn yn bosib)
Trên o Lerpwl i Fangor, wedyn pum munud o gerdded lawr y lôn fawr tuag at adeiladau'r undeb (Amser a'r Academi). Mi weli di arwyddion am Theatr Gwynedd o'r stesion. Jest dilynna rheini tan i chdi ddod at rywbeth sy'n edrych reit debyg i'r Arc de Triomphe, ond ar raddfa dipyn llai. Dyna chdi wedi cyraedd yr Undeb!
Diolch i chi gyd, mae hynnan gret - ond o ni wedi bwriadu trafeilio fynnu yn ystod y dydd a mynd ir steddfod gynta er mwyn sefydlu pabell ac ati...cyn mynd i amser. Sut di'r ffordd orau o wneud hyn?