Euskadi: Legazpi a Bilbo

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Euskadi: Legazpi a Bilbo

Postiogan sanddef » Maw 26 Gor 2005 11:57 am

Os ti'n mynd i Euskadi, yn enwedig Bilbo (Bilbao) neu Legazpi (yn nhalaith Gipuzkoa), dos i unrhyw dafarn lle mae baner Euskadi (ar wahan i dafarnau'r PNV/EAJ) neu Cuba yn hongian uwch y mynedfa, dywed wrthynt dy fod yn Gymro Cymraeg (neu Gymraes, wrth gwrs) a dy fod yn casau'r Saeson ac wedyn paratoi dy hun i gael dy feddwi a dy stonio am ddim, dy wahodd i fwyta ac wedyn i ba fiesta bynnag sydd ar gael pryd hynny. Dw'i wedi sgwennu am helyntion Euskadi ar edefyn arall ond anghofia hynny; Pan siaredir am gael hwyl mae'r Basgwyr yn anghredadwy!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Aran » Maw 26 Gor 2005 4:12 pm

Diolch ti boi, wna i gofio hynny mewn tair wythnos... :D
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Štefanik » Maw 26 Gor 2005 4:29 pm

GyB yn le hynod.

Zarautz yn Gipiskoa yn dre lan mor bach hardd a phopeth yn Basgeg (cyngor y dref wedi penderfynnu hynny).

Werth jyst llogi car a gyrru o gwmpas y lle.

Cofia fynd a chamera - bydd digon o luniau i'w tynnu. Coffi bendigedig hefyd.

Bwyty Albert yn hen ran Biblo yn gwneud stec hyfryd. Sideria (?) yn lefydd bwyta da gyda sidr cartref da. Ond mae'r pintxos yn unrhyw bar yn fendigedig.

Arddangosfa Gernika yn OK er fod Gernika ei hun fel rhyw Cwmbran Basgeg o ran adeiladau (am resymau amlwg h.y. y Luftwaffe'n bomio'r lle).

euskadi.net efo tipyn o wybodaeth.
peidiwch byth trystio boi 'da mwstash
Rhithffurf defnyddiwr
Štefanik
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 57
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 9:13 pm
Lleoliad: Bratislafa y Canolbarth

Postiogan Aran » Mer 27 Gor 2005 9:21 am

Gwybodaeth defnyddiol iawn, diolch yn fawr am hynny. Lle yn union mae Gernika? (Ar ran daearyddiaeth, hynny yw!)

Byddwn ni yno gyda char, felly digon o gyfle i grwydro... :)
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Lletwad Manaw » Mer 27 Gor 2005 11:04 am

Gernika i fewn i'r tir mawr o Bilbao rhyw 3/4 awr ar y tren os win cofion iawn.

Lle ddigon tawel/marwedd.....tebyg i Grymych wedwn ni!!!!!

Digon tawel odd yr Amgueddfa na pan es i hefyd...ond gofal fod tin checio fod y lle ar agor cyn mynd achos ma na orie agor rhyfedd gyda'r lle. Es i am nap ar fainc yn y dre am rhyw awr a hanner yn aros i'r lle agor!!
Lletwad Manaw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Sad 30 Hyd 2004 4:56 pm

Postiogan Aran » Mer 27 Gor 2005 2:19 pm

Diolch yn fawr iawn Mr Lletwad! Dw i'n brysur gwneud nodiadau (a dw i erioed wedi bod yng Nghrymych 'chwaith, felly mae'n siwr bydd yn ddiddorol... :winc: ).
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Re: Euskadi: Legazpi a Bilbo

Postiogan gwern » Iau 11 Awst 2005 11:23 am

sanddef rhyferys a ddywedodd:Os ti'n mynd i Euskadi, yn enwedig Bilbo (Bilbao) neu Legazpi (yn nhalaith Gipuzkoa), dos i unrhyw dafarn lle mae baner Euskadi (ar wahan i dafarnau'r PNV/EAJ) neu Cuba yn hongian uwch y mynedfa, dywed wrthynt dy fod yn Gymro Cymraeg (neu Gymraes, wrth gwrs) a dy fod yn casau'r Saeson ac wedyn paratoi dy hun i gael dy feddwi a dy stonio am ddim, dy wahodd i fwyta ac wedyn i ba fiesta bynnag sydd ar gael pryd hynny. Dw'i wedi sgwennu am helyntion Euskadi ar edefyn arall ond anghofia hynny; Pan siaredir am gael hwyl mae'r Basgwyr yn anghredadwy!


Ideal, ai gwlad y basg a bod yn hogyn bach honast am fyn neimladau tuag at saeson a spaenwyr a wedyn gai cwrw a weed am ddim. Swnio yn too good to be true.
shanty shanty
Rhithffurf defnyddiwr
gwern
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Maw 27 Ion 2004 3:12 pm

Postiogan Geraint » Iau 11 Awst 2005 11:39 am

Beth yw'r ffordd gorau y gyrraedd wlad y Basg? Mae ffleits yn mynd i Bilbo o Stanstead, ond dwi ddim isho fanna. O Lerwpl ma ffleits i Madrid a Barcelona. Mynd i un ohonynt a dal tren yno falle?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Prysor » Mer 17 Awst 2005 11:58 pm

genai ffrindia sy'n mynd i wlad y Basg yn aml, a dwi wedi cael yr un math o hanesion difyr am y lle gena nhw, felly dwi'n edrych ymlaen i fynd yno am y tro cynta yn mis Hydref. Mae na tua 20 ona ni'n mynd drosodd i wyl anferth.

hyfrydwch :D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan eusebio » Gwe 04 Tach 2005 10:26 am

Ydi Navarro yn ranbarth arwahan neu'n ran o Wlad y Basg?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai