Prysor a ddywedodd:ymhellach, dwi'n gweld lle ti'n gneud camgymeriad - mae map wikipedia yn dangos gwlad y basg fel rhyw sir fach bitw i'r gorllewin o ranbarth mawr Nafarroa, pan, mewn gwirionedd, nid Gwlad y Basg yw'r sir honno, ond rhanbarth arall oddifewn Gwlad y Basg.
Mae'r map yn dangos 'cymunedau awtonomaidd' Sbaen. Mae Gwald y Basg yn un ohonynt a Navarre yn un arall. Dwi'n cytuno'n llwyr a thi fod Navarre yn ran o Wlad y Basg hanesyddol, ddiwylliannol a ieithyddol, ond o dan gyfansoddiad Sbaen maen nhw'n endidiau cyfansoddiadaol gwahanol - dyna oeddwn i'n drio ddeud.
Diau mai holl bwrpas hyn oedd rhannu'r Basgwyr ac arwain at yr union fath hon o ddadl ynghylch beth yw tiriogaeth Gwlad y Basg. Divide and Rule.