Tudalen 1 o 3

Affrica a De America

PostioPostiwyd: Mer 10 Awst 2005 11:52 pm
gan gwern
Dwi yn meddwl mynd i drafeilio rownd Affrica nei De America mewn blwyddyn nei ddau. Oes rhywun efo cyngor da am pa wledydd i fynd i yn y cyfandiroedd yma? Nei llefydd neis i fynd yn y cyfandiroedd yma? Nei tia faint o ddrud ydi gwledydd yn Affrica nei De America i rhywun sydd yn meddwl trafeilio am fisoedd ar budget? Bysa unrhyw help yn neis.

PostioPostiwyd: Maw 13 Rhag 2005 11:15 am
gan docito
Hei
Wedi gwario bron i flwyddyn yn teithio a byw yn Ne America. Ma'r lle mor fawr ma'n dibynnu pa fath o brofiad wyt ti eisiau:
Traethau - Brazil - Dim cystadleuaeth!
Mynydda/Gweld bywyd yr Andes heb ormod o effaith Twristiaeth - Bolivia (lle anhygoel!)
Byw mewn gwlad a cyfleusterau Ewropeaidd ond gyda prysiau trydydd byd - Arianin (er fy mod i braidd yn biased!)
Cwrdd a rhyw 3 person sydd yn siarad cymraeg a gweld trefi hyll a diflas - Gaiman/Trewlew a.y.b ( no offence ond does fuck all yno ond am yr hanes!)
Off beaten trackish!! - Columbia (unfair rep!!)
Uchafwbynt personol - Rhaeadrau Iguazu (WAW!!)

Danfon ebost os ti eisiau unrhyw atebion g_r_owen@hotmail.com

o.n. meddwl mynd i affrica ha nesa. Sori methu helpu

PostioPostiwyd: Mer 14 Rhag 2005 10:28 am
gan Mwddrwg
Mi wnes deithio efo 'tour' am 3 wthnos yn Affrica, cychwyn o Johannesberg i fyny trwy Botswanna, i Zimbabwe, wedyn Mozambique. Dydwi'm yn meddwl y basa'n ddrud iawn rhentu car a mynd i'r llefydd yma dy hun, ond mae'r ffyrdd yn wael iawn mewn rhai mannau, ac mi fasa teithio'n Zimbabwe wedi bod yn anodd iawn heb fod ar 'tour' oherwydd nad oedd 'na betrol ar gael (sanctions).

Roedd na gymaint o amrywiaeth o uchafbwyntiau:
Rafftio ar/yn y Zambezi
Gwersylla yn yr Okavango Delta - i swn rhuo llewod ac eliffant yn tramplo trwy'r camp
Snorclo dros 'coral reef' ym Mozambique - traethau hollol stunning, tawel, unspoilt

Fues i'n Ne Affrica hefyd - gwlad hawdd iawn i deithio o'i chwmpas ac efo mwy o 'luxuries' na'r gwledydd eraill fues i ynddyn nhw.
Cape Town yn ddinas wych efo awyrgylch gyffrous a chymysg - cymaint i'w wneud, bwyd hyfryd.
Ardal win Stellenbosch gerllaw - 'tasting tours' yn reit rhad
Yr arfordir yn addas i syrffio a gweld morfilod
Lesotho werth ymweliad i weld sut ma bywyd go iawn yno - dim tourists yma a teithiau merlota hyfryd i fyny'r mynyddoedd
Cachlwyth o anifeiliaid yn Kruger National Park

Mi gei di agoriad llygad yn sicr

PostioPostiwyd: Mer 14 Rhag 2005 11:36 am
gan Cwlcymro
Mwddrwg a ddywedodd:Rafftio ar/yn y Zambezi


Eiliaf. Diwrnod anghygoel. Ti'n dechra ar waelod Victoria Falls, cal picnic yn dy gwch hannar ffor lawr a ma na rhyw 15 rapid i gyd. Ti'm angan dim profiad, a ti'n garantid o ddisgyn mewn o leia unwaith (mi nath rafft yn ffrindiai droi drosodd o leia teirgwaith!)

PostioPostiwyd: Mer 14 Rhag 2005 11:50 am
gan Aranwr
Os ti'n mynd i Affrica cer am ymweliad i Lesotho, mae'r wlad wedi gefeillio a Chymru. Es i yno rhyw flwyddyn yn ol ac ma' hi'n wlad wych!

PostioPostiwyd: Sad 24 Rhag 2005 4:18 pm
gan Twpsan
Es i Ecuador ha' dwytha oedd yn hollol wych! Dydy prisiau byw ddim yn ddrud iawn e.e. y 'gwesty' cyntaf i mi aros ynddo yn Guayaquil (eu prif ddinas masnachol) mi oedda ni`n gallu cael pryd 3 cwrs am ddwy ddoler -ddim yn wefreiddiol o fwyd ond ti`m yn gallu mynd rong hefo hynna nwgwyt! Achos bpd na prin dim twristiaid yn mynd i Guayaquil dydyn nhw`m di twigio sut i neud arian allan ohona ni - ond ma Quito yn ddipyn drytach a wedi synhwyro bod ni gringos (neu pobl gwyn) yn reit handi!

'Swn i`n argymell i ti fynd i Montanita os ti ffansi cyfnod o jest 'ymlacio' erbyn diwedd dy wyliau - ma'r hosteli`n andros o gyfleus- traeth hollol stunning a fana ydy surfing capital Ecuador. Dydy gwersi syrffio ddim yn ddrud iawn na alcohol,cyber cafes etc, ond duda os wyt ti ffansi gneud tripiau 'swyddogol' fatha snorclo/whale spoting etc, dyna pryd ma' raid i chdi ddefnyddio rywbeth mwy nag arian man.

Joia lle bynnag ti`n mynd beth bynnag! Gyda llaw oes yna rywun sydd 'di teithio Brazil ffansi rhoi tips ar lefydd i fynd yna plis?

PostioPostiwyd: Sad 24 Rhag 2005 5:03 pm
gan gwern
Diolch am y cyngor. Dwi yn backpackio o gwmpas Asia ar y funud a dwi ddim yn ffansio mynd adra a setlo lawr. Dwi iso neud mwy o drafeilio cyn setlo lawr a sortio fyn mywyd cymleth allan. Jyst wondero sut mae De America a Affrica fel.

montanita

PostioPostiwyd: Maw 03 Ion 2006 9:47 am
gan docito
Eilio'r hyn y dywedaist am Guayaquil. Rhaid dweud i ni gael ein siomi'n aruthrol gan Montanita. 7 diwrnod yn niwedd mis Awst = 7 diwrnod o law!!!! Roedd hi'n sioc bod gwlad cyhadeddol fel Equador yn cael tywydd mor uffernnol!!

PostioPostiwyd: Maw 03 Ion 2006 12:30 pm
gan eusebio
Wedi gweld lluniau fy mrawd, fu'n teithio o amgylch y byd am 18 mis cyn dod adref y mis Tachwedd, mae ei luniau o ardal fynyddoedd yr Ariannin (ar y ffin

PostioPostiwyd: Maw 03 Ion 2006 4:42 pm
gan Twpsan
Rhaid dweud i ni gael ein siomi'n aruthrol gan Montanita.


Lle arhosis di?