Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 2:05 pm
gan docito
Sdim byd ar y ddear yn dod yn agos i'r golygfa gei di wrth dreifo lawr i La Paz o'r Altiplano.


Llygad dy le. Ma dod i lawr o ddinas EL Alto i fewn i La Paz yn brofiad anghredadwy. Pam bod unrhywun di penderfynnu adeiladu dinas mewn crafas?!!! Ma Bolivia yn anhygoel. Fe ddringo ni mynydd Huayna Potosi yn ymyl La Paz - 6100medr - lladdfa!!! Un peth sy'n rhaid dewud am y Bolifiaid yw nad ydyn nhw y pobl mwya rhywiol yn y byd!!!! Beth yw'r pwynt o wisgo "Bowler hats" sydd rhyw ddeg gwaith yn rhy fach!!

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 2:14 pm
gan Iesu-ar-acid
docito a ddywedodd:Bolivia yn anhygoel. Fe ddringo ni mynydd Huayna Potosi yn ymyl La Paz - 6100medr - lladdfa!!! Un peth sy'n rhaid dewud am y Bolifiaid yw nad ydyn nhw y pobl mwya rhywiol yn y byd!!!!


haha fi'n deall ble ti'n dod o da hwna, ond falle taw just be chi'n gyfarwydd gyda....falle ma lot o nhw'n meddwl bo ni'n hyll. Rhaid gweud though, ma da fi criw o ffrindie fyna (merched) a ma nhw'n absolutely anhygoel o rhywiol (dyw e ddim yn mater of taste, ma nhw'n :o :o !). Tro nesa ti'n mynd 'na cer i clwb nos Forum, ma'r merched yna'n anhygoel....ac odd y dynion yna mor friendly gyda'u breichie rownd ni yn gweud "aah Gales, como Ryan Giggs?" etc. ein bod ni'n dechre tybio os o'n nhw'n gay......nes i girlfriends nhw troi lan.

O'n i really moin dringo Huayana Potosi ond nes i defnyddio gyd o arian fi yn dringo Cotopaxi yn lle. Es di gyda guide? if so, faint nath e costio? Os unrhyw hair-raising darne fel y "ladder" enwog yn cotopaxi?

Odd Cotopaxi yn ffycin anodd :lol: betiai bod huayana potosi'n hyd yn oed wath......odd y diffyg ocsigen yn neud fi teimlo'n sic, ac o'n i methu cerdded mewn llinell syth erbyn y copa!

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 3:46 pm
gan docito
Odd Cotopaxi yn ffycin anodd :lol: betiai bod huayana potosi'n hyd yn oed wath......odd y diffyg ocsigen yn neud fi teimlo'n sic, ac o'n i methu cerdded mewn llinell syth erbyn y copa![/quote]

Fi'n addo i ti: Hwna odd y 2 diwrnod gwaetha fy mywyd. Pam fo dyn 24mlwydd oed, ffit, yn gorwedd ar ochr mynydd yn ceisio llefain ond yn methu oherwydd diffyg oxygen ma pethen wael. Odd cwpwl o darne hair raising ond odd y 100 medr olaf yn uffer: 45 gradd o 'ice field'. Nes i rhoi lan 20medr o'r top a nath y guide a fy ffrind mwy neu lai fy nhynnu i fyny!!! Odd Bolivia yn anhygoel.... Uyuni yn rhwbeth arall a'r bobl mor gyfeillgar. Ddim yn credu bod ti di cwrdd a merched pert yn La Paz!!! Rhaid ma Archentwyr oedd nhw ar wylie!! Pa mor hir o ti yno?

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 4:29 pm
gan Twpsan
Ddaru chi ddringo o gwmpas Quilotoa? Y peth caletaf dwi rioed di gneud yn fy mywyd, ond oedd yr olygfa`n hollol werth o! Crater llosgfynydd dio hefo laguna lyfli reit yn canol. Ges i`r craving MWYA am olives gwyrdd ryw bedair/pum awr i fewn i`r daith! Rhyfedd iawn...

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2006 12:29 am
gan Iesu-ar-acid
Es i lawr i Uyuni hefyd, odd e'n cool ond penderfynais just neud tour un dydd achos odd bron dim arian ar ol da fi. Tro nes fi'n mynd 'na ma Huayana Potosi yn bendant ar yr agenda (betiai fod y golygfa werth y poen eh?). Seriously os chi'n mynd lawr i 'Zona Sur' yn La Paz ma gyd o'r merched yn stunning.....ac obviously os chi'n gringo chi fel magnet iddyn nhw hefyd :lol:

Rhaid gweud though.....ma dim unrhywle yn y byd fel Santa Cruz yn Bolivia am merched ffit. Odd e 100% well na Rio o nhw just yn anhygoel, ac o'n ni methu istedd ar mainc yn y plaza am 10 munud heb i rhyw criw o merched dod lan i ni! Sai'n credu fod lot o gringos yn mynd y Santa Cruz felly ma nhw'n mesmerised gan gwallt blonde a llygaid glas heheh

Es i i Quilotoa hefyd twpsan odd e'n anhygoel, ac odd rhyw nutter yn nofio ynddo! Nethon ni cwrdd a hen shepherd lleol heb dannedd ar y ffordd lan odd methu siarad sbaeneg, ond nethon ni dal llwyddo cal good laugh 'da fe rhywffordd through the medium of signals gyda'n dwylo!

Nath unrhywun o chi mynd i weld shaman yn y jwngl? Yn ecwador nethon ni neud ayahuasca......dyna chi profiad weird i gweud y least!

Gethon ni bach o close call ar ein taith ni - o'n ni di smygu weed da cwpwl o mexicanwyr o'n ni di cwrdd a yn Aguascalientes ar ben rhyw twr yn y nos a nath fy ffrind menthyg cot i un ohonynt achos odd e'n oer. Nath y dyn ma wedyn rhoi'r weed yn ei poced ar ol gorffen rolio.....ac anghofio fe fyna! Nath ffrind fi bron cal heart attack pan ffindiodd e yn Ecuador.....odd e di cario fe rownd mexico am mis, mewn i cuba, rownd cuba am mis, nol i mexico, mewn i ecuador a rownd ecuador am 2 wythnos! :ofn:

Fi'n credu nethon ni dysgu gwers tho :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 17 Chw 2006 11:53 am
gan Kempes
Oes na rhywun wedi bod i Orllewin Affrica: Mali, Nigeria, Cameroon, Burkina Faso?

PostioPostiwyd: Maw 21 Chw 2006 10:29 am
gan Kempes
Kempes a ddywedodd:Oes na rhywun wedi bod i Orllewin Affrica: Mali, Nigeria, Cameroon, Burkina Faso?


Na?