Wypadi-dw!!
Dwi newydd ddychwelyd o Kavos, a ges i amser ffantastic.
Er, fel ma Dai Dom Da di deud, oedd y lle yn llawn Saeson, a sai'n teimlo bo fi di cael gwir flas o fywyd Groeg yn Kavos. Ond pan aethon ni i Corfu Town, tua awr a hanner i ffwrdd o Kavos, ges i agoriad llygad wrth deithio ar y bus - adeiladau anhygoel, a golygfeydd hyyyyyfryd.
Ond dwi'n un sy wastad yn pisho...a phan es i mewn i ryw gaffi i'r ty bach, doedd dim un i'w weld yn nunlle. Na gyd oedd yno, oedd twll yn y llawr!! Bleugh!
Hefydd, oedd Noson Groegaidd yn yr hotel ar y nos iau, lle oeddech chi'n gallu bwyta cymaint o fwyd Groegaidd o chi ishe, a gweld dawnsio traddodiadol, smasho platie a gweld tricie gyda tan. Oedd hon yn gwed nosweth fach, lot o sbort...ond oedden nhw wastad yn pigo ar ein criw ni i neud popeth, achos dim ond ni oedd digon dwl i neud pethe fel belly dancing, a balanso gwydr ar y talcen!
Ond iesu mowredd, ma'r buses mor ryff, a es i mewn tacsi...ac on i'n lwcus bo fi dal yn un pishyn!! Gyrrwyr yn becso dim, a ma cymaint o mopeds o gwmpas y lle
Blydi hel,
Traeth Kavos braidd yn ych, ond y Blue Lagoon yn wych, ac odd y dwr mor glir! Ond deifes i ddim mewn, achos fi'n dwli ofn pysgod!!
Aethon ni i Aqua Land ryw ddiwrnod fyd, eitha da', ond oedd y diwrnod yn dragio braidd.
Saith dwrnod yn hen ddigon na, erbyn ddoe, on i'n barod i ddod adre achos oedd y gwres mor llethol. Os bydde fe mwy cool na, fydden i'n aros na am wythnos arall!!
A ma Tronaldo yn llygad ei le - chi ffili mynd un cam heb bo rhywun yn trio denu chi mewn i yfed neu fwyta
Blydi hel, annoyoing braidd!
Ond gwd gwylie bach! A nid lili wen fach o groten wyf mwyach, o hohohoho nage! Dwi o'r diwedd wedi cael tamed bach bach o liw haul, iypeeeeee