Ydi'r Traws yn dal i fynd, ac os felly am faint o'r gloch? Oes unrhywun sy'n gwneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus na fi ( ) all fy nghynghori ar hyn?
Dwlwen a ddywedodd:Traveline yn cytuno 'da 510N, 'blaw bo ti'n dal bws/tren cynt i Abertawe a mynd o fan'na...
Diawl, mae'r wefan yna'n gach.. cafon nhw plentyn 5 mlwydd oed i'w gynllunio?
Ddos i ar draws hwn ar ol i mi ofyn y cwestiwn. Handi iawn on i'n meddwl, heblaw nad oedd yn adnabod 'Caerdydd' fel cyrchfan hyd yn oed ar y tudalennau Cymraeg.