Oktoberfest

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Oktoberfest

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 16 Medi 2005 2:41 pm

Gweld hwn:

http://www.oktoberfest.de/en/

a oedd yn codi gwir awydd arnai i fynd y flwyddyn nesaf. Mae'n swnio fel Steddfod heb y gigs. Oes rhywun wedi bod?
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan tafod_bach » Gwe 16 Medi 2005 2:57 pm

rioed di bod i'r peth ei hun, ond wedi mynychu digon o weithgareddau CAMRA i ddeall beth yw'r gist. rheiny fwy fel aelwyd efo cwrw na steddfod heb gigs. allai ddim recomendio nhw fwy - yn enwedig os oes stondin gaws a pheis 'go-iawn' yn cael ei redeg gan ddyn barfog mewn crys t 'olympic wanking championships, 1982'. bavarian dancing girls, wir... <<< ella ai i hwn, ddo...
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Rhodri Nwdls » Sad 17 Medi 2005 2:29 pm

Dwi'n mynd i fethu Gwyl Seidr a Chwrw Caerdydd 'leni. :crio:

Sa rwbath tebyg yn digwydd yn Aber? O na, ma'r Wyl yn para drwy'r flwyddyn fan hyn tydi...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan huwwaters » Sul 18 Medi 2005 12:02 pm

Ma Whetherspoon's fel rheol yn cynnal ryw fath o Oktoberfest. Ble ma na cynnigion da ar brisiau cwrw.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Gwen » Sul 18 Medi 2005 1:09 pm

Dwi fy hun ddim, ond mi fuodd fy ngwr flynyddoedd yn ol, ac mae o'n dal i son am y peth. Myn air, Risiart.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mici » Mer 21 Medi 2005 11:50 am

Wedi gaddo bob blwyddyn ersdalwm i fynd yma(ond dal heb fynd :crio: )

Wedi gwneud ychydig o waith ymchwil blwyddyn diweddaf a mae'n ymddangos fod y canolbwynt yr oktoberfest wedi cael ei difetha gan Americanwyr sydd methu dal ei diod(hynny yw mwy cegog na'r arfer), hefyd wedi arwain at godi prisiau y 'steins cwrw'.

O'r herwydd mae nifer o'r Alamenwyr wedi dechrau gwyliau yfad(festivals) ei hunain sydd i fod yn rhatach ac yn fwy o hwyl.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Re: Oktoberfest

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 21 Medi 2005 12:06 pm

Llewelyn Richards a ddywedodd: Mae'n swnio fel Steddfod heb y gigs. Oes rhywun wedi bod?


Byth wedi bod, ond nabod nifer sydd yn mynd bob blwyddyn - mae na fandiau wpa pa pa yn chwarae fersiynnau o ganeuon poblogaidd o stwff fel Kiley a Britney yn ol y son.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 21 Medi 2005 2:01 pm

Ma gwyl gwrw Caerfyrddin penwythnos nesa yn neuadd "San Pedro" (ecsotig iawn).

"Peint o gin os gwelwch yn dda...ie, 'da ymbarel bach melyn..."
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Fatbob » Mer 21 Medi 2005 2:05 pm

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:Ma gwyl gwrw Caerfyrddin penwythnos nesa yn neuadd "San Pedro" (ecsotig iawn).


Methu trefnu ffacin piss yp mewn gwyl gwrw!!! - wnaethon nhw redeg mas o gwrw llynedd marce 7 or gloch ar y nos Sadwrn, goffon ni fynd off i Spar i brynu cwpwl o gans i bara gweddill y nosweth. (Mi oedd y cwrw oedd i gael cyn 7 yn neis iawn gyda llaw).
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 21 Medi 2005 2:31 pm

Fatbob a ddywedodd:Methu trefnu ffacin piss yp mewn gwyl gwrw!!! - wnaethon nhw redeg mas o gwrw llynedd marce 7 or gloch ar y nos Sadwrn, goffon ni fynd off i Spar i brynu cwpwl o gans i bara gweddill y nosweth.


Sai'n meddwl mai diffyg trefn odd e. Wel...rho ddi fel hyn, te ti'n llenwi'r San Pedro 'da holl gwrw sir Gar, bydde fe'n gorffen cyn 7 nos Sadwrn. Competition yfed yw unrhyw wyl gwrw yng Nghaerfyrddin. (odi ddi wir yn wahanol rhywle arall?) Ti'n gweld 'na wrth glywed cleber pobl am y digwyddiad. Sdim rhyw garn o siarad am y dewis eang o gwrw, just ecseitment pobol yn gyffredinol bo lot o fooze mewn un neuadd, sdim lot o gerdded yn involved, sdim lot o wragedd(trwbwl/ffeito) yn mynychu a ma rhipyn i'r toilet (handi). A er bo bois CAMRA yn jocan mai nhw sy'n rhedeg y show, ma pawb yn gwbo taw alcoholics sy'n rhedeg y dre. 'Drych ar y Cyngor Sir 'an.

Tip gore yw cymryd dy Gwener bant, a cer 'na nos Iau a ymuna mewn 'da'r "gystadleuaeth" yn gynharach.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron