Mali a ddywedodd:Er hynny , fe gawsom un foment reit arbennig wrth i ni wylio arth ddu ar un o draethau unig Ynys Vancouver.
SerenSiwenna a ddywedodd:
mae'n anodd cael golwg ar creaduriaid y mor
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Welish inne hi hefyd!!!!
Es i i chwilio am orcas yng nghanol "ynysoedd yr Orcas" yn haf 2003 - welson ni sawl morfil (dyma pryd dorrodd fy nghamera 35mm i...a bu'n RHAID i fi brynu un digidol yn Victoria ychydig ddyddiau'n ddiweddarach!) Gyted.
Ond heb ddisgwyl gwneud hynny, mi welon ni arth ddu hefyd - ar ben ei hun ar draeth unig...
Fuon ni'n cerdded ar draeth yn Tofino hefyd - ac mi roedd olion traed amheus yn fanno hefyd!
Manon a ddywedodd:Welish i forfil las yn Kaikoura, Seland Newydd, ac roedd o'n brofiad amazing... mae nhw mor fawr ond mor osgeiddig. y llun 'na'n amazing Mali... 'swn i wrth fy modd gweld arth sydd ddim wedi gwallgofi mewn sw...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai