Ma'n dibynnu ar amser. Os oes gen ti ddigon yna baswn i'n dweud nag oes angen hedfan arno ti. Alle di prynu flight i mewn i Lima ag allan o Rio am rhyw 700 cant puntish. Y route base ni'n argymell base
Lima i Nasca yna i Cusco er bod nasca ychydig yn siomedig ar flight yn hynod o anghyfforddus.
Fe alle di hedfan o CUsco i Santiago/B.A ond
Baswn i'n argymell yn gryf i ti fynd i Bolivia. Ma Llyn Titicaca yn hynod o odidog a ma Salt plains Uyuni yn hollol anhygoel!!!! (fu ail hoff le yn Ne America ar ol Iguazu!). Ma llunie o'r lle ar
http://pieboy.fotopic.net/c704763_37.html
Yna fe alle di fynd lawr trwy chile via diffeithwch yr atacama, galw yn Mendoza (arianin) a Santiago am ychydig ac yna mynd lawr i patagonia neu hyd yn oed Tierra Del Fuego ar ochr Chile. Yna alle di fynd lan i B.A. heibio glacier moreno a'r wladfa ( Er hyn cofia bod hi'n rhyw 50 awr mewn bys o Tierra del Fuego i B.A. - ond mae'n werth hi)
O B.A mae'n 20 awr mewn bys i Iguazu a 24 awr mewn bys i rio o'r rhaeadrau.
Gwybod bod yr amseroedd bysus yn swnio'n ofnadwy ond mar bysus mwya costus yn hynod o foethus (bwyd, diod, digon o le, ffilms ayb)
Be dwi'di neud yw prynu flights pan dwi allan yno, wedi blino ac yn ffansi treatio'n hunan. Os neu di budgeto 500 punt ar gyfer flights ychwnaegol fe alle di cal 4-5 flight yn hawdd.