Taith trên o'r Rhyl i Gaerdydd

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Taith trên o'r Rhyl i Gaerdydd

Postiogan Mali » Sul 06 Tach 2005 3:09 am

Wedi clywed ei bod hi'n cymeryd llai o amser i drafeilio o Ogledd Cymru i Gaerdydd ..ar y tr
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan huwwaters » Sul 06 Tach 2005 3:33 am

Ydio hel!

Penwythnos dwytha, o ni isio myn o'r Rhyl i Abertawe. Nath o gymyd tua 9 awr yn gyfangwbwl. 1 awr o Gaerdydd i Abertawe. Y rheswm yw eu bod yn neud y trac, a bod angen bysiau o rai llefydd i lefydd erill.

Ma'n bosib cael direct train o'r Rhyl i Gaerdydd mewn tua 3 awr dwi'n meddwl. Ma hwn yn tueddu i adael toc wedi 6, ac yn cyrraedd cyn 10.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 06 Tach 2005 3:40 am

Os wyt am fod unwaith eto yng Nghymru annwyl, Mali, bydd y daith o Ganada i wledydd Prydain yn ddim o beth o gymharu
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mali » Sul 06 Tach 2005 3:57 am

Ydw , dwi am fod 'Unwaith eto yng Nghymru Annwyl' ... :D ond ddim yn ffansio dreifio i lawr i Gaerdydd. Yn gweld y ffyrdd yn lot mwy prysur acw a'r cyflymdra yn :drwg:
Felly Huw, tua tair/pedair awr o Rhyl i Gaerdydd ...ac mae'n bosibl i wneud y siwrna yn hawdd mewn diwrnod?
Naw awr o Vancouver i Manceinion.....pedair awr o Rhyl i Gaerdydd :? :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 06 Tach 2005 9:47 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r daith car yn arswydus. Yr A470 ydy'r priffordd rhwng Llandudno a Chaerdydd. Mae rhannau o'r ffordd yn un l
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan huwwaters » Sul 06 Tach 2005 2:32 pm

Mali a ddywedodd:Ydw , dwi am fod 'Unwaith eto yng Nghymru Annwyl' ... :D ond ddim yn ffansio dreifio i lawr i Gaerdydd. Yn gweld y ffyrdd yn lot mwy prysur acw a'r cyflymdra yn :drwg:
Felly Huw, tua tair/pedair awr o Rhyl i Gaerdydd ...ac mae'n bosibl i wneud y siwrna yn hawdd mewn diwrnod?
Naw awr o Vancouver i Manceinion.....pedair awr o Rhyl i Gaerdydd :? :lol:


Wel, os chi'n dwad o faes awyr Manceinion, beth am gael tren i Crewe, wedyn tren yn syth o Crewe i Gaerdydd. Ma na ychydig yn gwneud hwne. Ma Crewe i Gaerdydd tua 2 awr 45 munud o daith.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan dave drych » Llun 07 Tach 2005 1:23 pm

Nes i daith bws o Rhyl i Caerdydd pan oni dal yn ysgol. Natho gymyd 7 awr i gyrraedd fy prifddinas ar y National Expres via Birmingham. 7 awr!! (Mae'r Traws Crwban yn mynd o Recsam dyddiau yma dwi di clywed, ond dwi'n siwr i Aberystwyth mae o'n mynd. Rhywun yn gwbod yn well?).
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Dewi Lodge » Llun 07 Tach 2005 1:30 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwyf o'r farn nad oes modd i'r Cynulliad llwyddo, na modd i Gymru teimlo ei fod yn un Genedl, hyd adeiladu traffordd o'r de i'r gogledd (a rheilffordd drydanol a llwybr beiciau cyfochrog).

Rhywbeth na ddigwyddith byth, gan fod yr amgylcheddwyr bondigrybwyll yn gwrthwynebu. Yr ymwelwyr a'u cefnogwyr yn yr awdurdodau twristaidd yn gwrthwynebu; a'r Blaid Lafur gyda'i wrthwynebiad cynhenid i undod y genedl Gymreig yn gwrthwynebu.


Cytuno! Mae'r cysylltiadau rhwng y De a'r Gogledd yn ddifrifol o wael. Lon bendigedig (M4) yn cysylltu Lloegr a'r De; Lon bendigedig (A55) yn cysylltu Lloegr a'r Gogledd. Divide and rule!!
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan S.W. » Llun 07 Tach 2005 3:48 pm

Er yn byw yn Ninbych, o Wrecsam dwi'n dal y tren i Gaerdydd dim o Rhyl. Mae'n gweithio allan lot yn haws yn fy marn i.

Mae bosib mynd ar y tren o Wrecsam i Gaerdydd mewn 3 awr rhywbeth. Os wyt ti'n mynd am 7:25 y bore mae na dren 'direct' sydd 2 awr a rhywbeth. Fel arall mae'n rhaid i ti aros yn yr Amwythig am rhyw 3 chwater awr.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Mali » Llun 07 Tach 2005 10:58 pm

Diolch S.W ...rhywbeth i mi feddwl amdano :)http://blogmali.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai