Misoedd Mel

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan S.W. » Sul 13 Tach 2005 11:09 pm

Diolch.

Dwi awydd rhywle fel Gibraltar gyda'r bwriad o deithio i'r gogledd i Sbaen ac i'r de i Morocco. Dwi erioed wedi bod i'r rhan yma o'r byd oes gan unrhyw rhai awgrymiadau?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Gwen » Sul 13 Tach 2005 11:13 pm

I Rufain a Sorrento yr es i a fy ngwr ar ein mis mel, ddiwedd mis Ebrill dwytha. Ron i'n ddi-waith ar y pryd - wrthi'n gorffen fy nhraethawd ymchwil, ond yn swyddogol, ar y dol - felly mis mel rhad oedd o, yn amlwg. Mi gaethon ni ffleit rad o Lerpwl, heb fod wedi bwcio fawr mwy na thri mis ymlaen llaw.

Mi wnes i fwynhau Rhufain yn arbennig. Roedd Sorrento ei hun yn chydig o siom ar ol clywed cymaint o ganmol gan fy rhieni a ffrindiau, ond roedd o'n gyfleus iawn fel canolfan i allu ymweld a Capri, Pompei ayyb.

Tywydd jins a top llewys byr = dim rhy boeth. Delfrydol i fi, sy ddim yn dal gwres yn dda iawn. Roedd hi'n dipyn poethach yn ystod yr ail wythnos, ond dal ddim yn annioddefol.

Yn fy mhrofiad i (9 mlynedd fel sdiwdant tlawd!), mae'n werth edrych i le y galli di hedfan o'r maes awyr agosaf, er mwyn arbed ar gostau teithio ym Mhrydain cyn hyd yn oed gychwyn ar y gwyliau.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan S.W. » Sul 13 Tach 2005 11:17 pm

Diolch Gwen

Di'r Mrs ddim yn hoffi gwres mawr chwaith.

Glasgow fyddai'r maes awyr agosaf o'r briodas i ni.

Mewn byd delfrydol byddwn in hoffi Seland Newydd
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan huwwaters » Sul 13 Tach 2005 11:25 pm

S.W. a ddywedodd:Diolch.

Dwi awydd rhywle fel Gibraltar gyda'r bwriad o deithio i'r gogledd i Sbaen ac i'r de i Morocco. Dwi erioed wedi bod i'r rhan yma o'r byd oes gan unrhyw rhai awgrymiadau?


Syniad da!

Dwi di bod i Gibraltar a mae o'n lle cwl. Un o'r pethau eironig yw, ar y ffin, ma na arwydd sy'n pwyntio i gyfririad Sbaen ac yn deud "Spain".

Yr ydych yn cyrraedd y colony drwy fynd ar hyd y runway, ac yn cael eich cyfarch gan aelod o Customs gyda acen Gloucestershire-aidd cryf. Yn fanno mae'r unig brid o fwnciod yn Ewrop, sef y Barbary Apes, ac yn y graig cyfres o ogofau a thwneli.

Ma customs rhwng coloni bach Sbaen(Ceuta?) yng ngogledd Affrica a Morocco yn shambles llwyr. Pobl yn croesi yma ac acw gyda duty free, a'r heddlu Morocaidd yn dewis pobl ar hap ac yn eu curo.

Yn y rhan yma o Forocco mae dinas o'r enw rhywbeth yn cychwyn efo T, sydd wrth ymyl mynyddoedd yr Atlas. Yn y ddinas yma, mae cyfres o tua 2,000 o strydoedd sydd dim on 1-1.5 medr o lled. Hawdd i fynd ar goll yn eu canol.

Llefydd yng ngogledd Sbaen dwi'n ei hawrgymu yw Granada, ble mae hen balas Mooraidd yr Al-Hambara. Oel o hanes Mwslemaidd yn Sbaen cyn i'r cymeriad El Cid cael ei ddydd. Yn fan hyn, yng nghanol y ddinas mae coed orennau'n tyfu. Mmmm.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Jeni Wine » Llun 14 Tach 2005 9:51 am

dwinna wastad wedi meddwl y basa Moroco yn lle braf i fynd ar fis mel.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Blewyn » Llun 14 Tach 2005 10:00 am

Tangiers ?

Medraf argymhellu Indonesia os da chi'n edrych am dirluniau syfrdanol, a phlanhigion ac anifaeliaid estron hardd, pobl croesawus a chyfeillgar ac amrywiaeth lydan o brofiadau ar gael.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Cynyr » Llun 14 Tach 2005 3:21 pm

Bilbao yn y Basg yn ddinas arbennig.

Barcelona yn sicr yn le iw ystyried 8)
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Postiogan Wilfred » Llun 14 Tach 2005 3:25 pm

Manon a ddywedodd:Be am Fflorens yn yr Eidal? Mae o'n gojys!


Cytuno yn llwyr.
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Llun 14 Tach 2005 4:09 pm

Gibraltar yn dwll o le ... yn enwedig os ti'n casau gweld Jac yr Undeb ym mhobman ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Gwyn » Llun 14 Tach 2005 4:26 pm

Trefna briodas fach, ddiffwdan, wedyn geith rhieni'r Mrs dalu am eich mis mel yn lle'r briodas.

P.S. pryd ma'r stag?
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron