Tudalen 1 o 3

Blwyddyn Allan i Deithio

PostioPostiwyd: Maw 22 Tach 2005 12:26 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Dwi'n graddio mewn blwyddyn (. . . a hanner) ac yn hanner ystyried mynd i deithio am chydig ar ol hyn cyn goro dechra gweithio a bod yn gyfrifol a thalu cownsil tacs a ballu. . . o'n i jysd yn meddwl os oes gan aelodau o'r maes unrhyw dips am drefnu blwyddyn ffwr?

Re: Blwyddyn Allan i Deithio

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2005 8:10 pm
gan Cynyr
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:Dwi'n graddio mewn blwyddyn (. . . a hanner) ac yn hanner ystyried mynd i deithio am chydig ar ol hyn cyn goro dechra gweithio a bod yn gyfrifol a thalu cownsil tacs a ballu. . . o'n i jysd yn meddwl os oes gan aelodau o'r maes unrhyw dips am drefnu blwyddyn ffwr?


'nes i hynny... er fe aeth yr UN flwyddyn yn bedair!!! rhybydd cyntaf fod teithio yn 'adicitf' yn uffernol a fod y cysyniad o setlo lawr a fod yn gyfrifol yn swnio'n erchyll pan ti'n gorwedd ar draeth yn Awstralia neu rhywle tebyg 8)
Y peth cyntaf iw wneud o bosib yw penderfyny lle ti am fynd ag yna trefnu tocyn hedfan. Ma na cynnigion da iw gael am docyn 'rownd y byd' ag mae'n arweiniaeth da i gynllun y daith. Ffordd arall iw cael swydd yn gwneud rhywbeth tramor (dyma wnes i), drwy wneud hynny ti'n dueddol wneud cysylltiadau a thramorwyr eraill. Fan yna mae'r antur yn dechre.. :crechwen: :crechwen:

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2005 8:14 pm
gan Madrwyddygryf
Os tisio gwneud rhywbeth gwahanol yn lle bacpacio (mae pawb yn gwneud o y dyddie ma'), edrycha ar y wefan yma. Mi wnes i o ar ol gadael coleg, profiad heb ei hail.

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2005 8:22 pm
gan Gethin Ev
Tra ti dal yn sdiwdant tlawd, dos i http://www.statravel.com. Mae nhw'n cynnig deals da, gesh i 6 fleit am

Re: Blwyddyn Allan i Deithio

PostioPostiwyd: Iau 24 Tach 2005 11:09 am
gan Dwi'n gaeth i gaws
Cynyr a ddywedodd:rhybydd cyntaf fod teithio yn 'adicitf' yn uffernol a fod y cysyniad o setlo lawr a fod yn gyfrifol yn swnio'n erchyll pan ti'n gorwedd ar draeth yn Awstralia neu rhywle tebyg 8)

ma'n swnio'n erchyll uffernol yn Fangor hefyd!!!!

Cynyr a ddywedodd:Ffordd arall iw cael swydd yn gwneud rhywbeth tramor (dyma wnes i), drwy wneud hynny ti'n dueddol wneud cysylltiadau a thramorwyr eraill. Fan yna mae'r antur yn dechre.. :crechwen: :crechwen:

dyna o'n i di feddwl. . . cael swydd yn rwla tha Ffrainc (chos di'n Ffrangeg i'm mor ddrwg a hynny - braidd yn rhydyd i ddechra on dwi'n diwr swni'n copio. . .)a wedyn mynd mlaen i rhywle pellach. . . ne ella jysd mynd suth i Awstralia/America/Selan Newydd a cael swydd yn fano.

Sud ma mynd ati i ffeindio swydd fodd bynnag??!?!?!??! A Faint ymlaen llaw sydd isho cynllunio'r petha ma???!?!!!!!

PostioPostiwyd: Iau 24 Tach 2005 11:42 am
gan Dwi'n gaeth i gaws
Gethin Ev a ddywedodd:Tra ti dal yn sdiwdant tlawd, dos i http://www.statravel.com.

Neith STA rhoi cyngor i chdi hefyd, mae nhw'n dda felna.

diolch am hwn, di bod yn browsio. . . wedi cal llawar o syniada ynglyn a gwaith, a gwaith gwirfoddol hefyd. . . thenciw :D

PostioPostiwyd: Llun 09 Ion 2006 6:49 pm
gan Iesu-ar-acid
Paid mynd i Awstralia seriously, ma fe'n culturally dead. Ma'r dinasoedd (heblaw am Sydney) yn undonog ac yn rhy 'newydd' a sdim rhyw lawer i'w wneud.

Ma PAWB yn mynd i Awstralia, a nei di gweld hwna pan ti 'na - gyd or hostels yn llawn Brits ar pecyn STA round the world. Y classic gap year yw...cerdded mewn i STA travel, mynd i awstralia am cwpwl o misoedd, yna new zealand, ac yna rhywle yn Asia, wedyn USA, wedyn adre.

Cer i weld Asia neu De America neu rhywbeth, achos nei di weld pethe o ti byth in disgwyl gweld. Os ei di i Awstralia by' ti'n cal amser 'neis' ar y traeth ond dyw e just ddim yn cymharu a teithio go iawn. To be fair, odd yr UDA yn lot well na o'n in disgwyl a byswn i'n argymell hwna hefyd, to a lesser extent.

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2006 10:53 am
gan docito
Ma PAWB yn mynd i Awstralia, a nei di gweld hwna pan ti 'na - gyd or hostels yn llawn Brits ar pecyn STA round the world. Y classic gap year yw...cerdded mewn i STA travel, mynd i awstralia am cwpwl o misoedd, yna new zealand, ac yna rhywle yn Asia, wedyn USA, wedyn adre.

Ma'n rhyfeddol. Cerdded mewn i STA a man nhwn gwerthu'r trip fel "once in a lifetime opportunity". Yna ti'n gadel a cwrdd a miloedd o bobl sydd yn hedfan i Thailand yna Darwain teithio ar draws y tir o carins i Sydney, seland newydd, fiji, l.a. a falle n.y. Dim bod dim byd yn bod ar hwn. Fe gei di amser dy fywyd ond fe neid di neud yn union be nes di neud yn coleg: Meddwi gyda prydeinwyr a cal uffarn o laff!! Os ti wir yn teimlo ma hwn yw'r unig cyfle yn dy fywyd i neud rhwbeth gwahanol a diddorol cer i unrhywle on fan yna. Fyny i ti

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2006 12:14 pm
gan garynysmon
Os ti'n gallu siarad Ffrangeg yn olew, pam ddim teithio o gwmpas gwledydd sydd gyda Ffrangeg yn iaith gyntaf? Gwlad Belg, French Polynesia, rhai o wledydd Affrica a.y.b. Just a thought.

PostioPostiwyd: Sad 14 Ion 2006 1:35 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
garynysmon a ddywedodd:Os ti'n gallu siarad Ffrangeg yn olew, pam ddim teithio o gwmpas gwledydd sydd gyda Ffrangeg yn iaith gyntaf? Gwlad Belg, French Polynesia, rhai o wledydd Affrica a.y.b. Just a thought.
wnim os di'n ffrangeg i mor dda a hynny ond dwi'n siwr swni'n dysgu be sgenai'm ohono fo'n gyflym, dwi'n awyddus i fynd i ffrainc, ella nai jysd aros yno am flwyddyn :rolio: . . rhaid fi gyfadda dydy Affrica nag Asia rili'n apelio. . . wedi dechra ystyried cwrs bach mewn sbaeneg. . . gawni weld, raid fi raddio gynta. . . wedi clywed am brosiect gwahanol yn awstralia yn mynd ar ffarm a helpu'r teulu, ti'm yn cael dy dalu ond ma'n for o gal cwmni a bob yn ran o fywyd bob dydd pobl