Beth yw dy radd di ?
Taswn innau r'un oed a chdithau r'wan, a'r EU wedi agor i fyny fel y mae heddiw, dwi'n meddwl y byswn yn gwneud bee-line am ar Alps, ffendio gwaith, dysgu i sgio a dringo yn brofiadol, a gwneud bywyd yno. OK ella fyswn i byth yn gyfoethog, ond mae'na wahanol fathau o gyfoeth ! Dringo a cherdded yn yr haf, sgio yn y gaeaf, y ddiwylliant Ffrengig, y bwyd a'r gwin....mmmmmm
Gallaf argymhellu Indonesia fel gwlad sy'n rhad ac yn llawn rhyfeddodau. Volcanos byw, Orang-Utans, y blodyn mwyaf yn y byd, mwncwns, traethau, plymio, siarcs, golygfeydd heb eu hail ar y ddaear. Mi fedri gael ystafell yno am rhyw ddwybunt y noson, a pryd o fwyd am bunt.
Cyn belled a mae talu treth yn y cwestiwn....mae'na amryw o wledydd ar draws y byd sydd yn ymestyn telerau aros teg iawn i bobl sy'n cario passport Prydeining, a lle d'oes diom treth o gwbl. Lle dwi'n byw, Bahrain, mae posib cael visa am dri mis wrth gyrraedd, dim angen rhoi cais na dim. Mae Oman, Kuwait a'r UAE yn debyg (mis neu dri mis). Nid yw yn swyddogol bosib gweithio ar visa twrist, ond d'oes dim yn dy stopio di rhag ffendio gwaith, gadael y wlad a dod yn ol ar visa gwaith. Dwi'n credu fod Thailand yn debyg.
Blewyn