Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:Dwi'n graddio mewn blwyddyn (. . . a hanner) ac yn hanner ystyried mynd i deithio am chydig ar ol hyn cyn goro dechra gweithio a bod yn gyfrifol a thalu cownsil tacs a ballu. . . o'n i jysd yn meddwl os oes gan aelodau o'r maes unrhyw dips am drefnu blwyddyn ffwr?
Cynyr a ddywedodd:rhybydd cyntaf fod teithio yn 'adicitf' yn uffernol a fod y cysyniad o setlo lawr a fod yn gyfrifol yn swnio'n erchyll pan ti'n gorwedd ar draeth yn Awstralia neu rhywle tebyg
Cynyr a ddywedodd:Ffordd arall iw cael swydd yn gwneud rhywbeth tramor (dyma wnes i), drwy wneud hynny ti'n dueddol wneud cysylltiadau a thramorwyr eraill. Fan yna mae'r antur yn dechre..
Gethin Ev a ddywedodd:Tra ti dal yn sdiwdant tlawd, dos i http://www.statravel.com.
Neith STA rhoi cyngor i chdi hefyd, mae nhw'n dda felna.
wnim os di'n ffrangeg i mor dda a hynny ond dwi'n siwr swni'n dysgu be sgenai'm ohono fo'n gyflym, dwi'n awyddus i fynd i ffrainc, ella nai jysd aros yno am flwyddyn . . rhaid fi gyfadda dydy Affrica nag Asia rili'n apelio. . . wedi dechra ystyried cwrs bach mewn sbaeneg. . . gawni weld, raid fi raddio gynta. . . wedi clywed am brosiect gwahanol yn awstralia yn mynd ar ffarm a helpu'r teulu, ti'm yn cael dy dalu ond ma'n for o gal cwmni a bob yn ran o fywyd bob dydd poblgarynysmon a ddywedodd:Os ti'n gallu siarad Ffrangeg yn olew, pam ddim teithio o gwmpas gwledydd sydd gyda Ffrangeg yn iaith gyntaf? Gwlad Belg, French Polynesia, rhai o wledydd Affrica a.y.b. Just a thought.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai