Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Sul 26 Maw 2006 2:29 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
di bod yn siarad fo'r ffalmingo gwyrdd, a di bod yn sbio ar wefan sta a ma'r trecs ma i weld i aplelio i gychwyn fo'i - nenwedig gan mod i'n bwriadu mynd fy hun.

sgan aelod o'r maes unrhyw gyngor / brofiada am rhein?!

PostioPostiwyd: Sul 26 Maw 2006 2:58 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
wedi clwywed son gan rhwyun am briosect lle da chi'n cael eich lleoli fo teulu allan yn outback awstralia a da chi'n cael ych lle a ballu - methu'n lan a chofio enw'r priosect ddo - oes gan unrhywun syniad?!

PostioPostiwyd: Llun 27 Maw 2006 11:09 am
gan Gowpi
fe wnes i gymryd blwyddyn mas cyn mynd i'r coleg, yn 18 oed. fe dreulies i 6 mis yn gweithio'n wirfoddol ar kibbutz yng ngogledd ddwyrain israel a chael cyfle i hitsio o amgylch y wlad, treulio'r nadolig ym methlehem a chysgu ar do yn jerwsalem cyn cael fy nihuno gan y muezzin i alw'r moslemiaid i weddio. ro'n i'n siopa yn tiberias, mynd i'r sinema yn nazareth a phartio yn tel aviv. ges i gyfle hefyd i deithio am 2 wythnos yn yr aifft dros y ffin... dwi ddim yn argymell rhywun i wneud yr un peth erbyn heddi...

sai'n gweud fod hyn wedi codi yn y drafodaeth hon, ond mae e'n mynd ar fy nhits pan ma' rhywun yn gweud ei bod am fynd i weld y byd ac yn mynd i awstralia, seland newydd, uda, a falle (er mwyn y gwa'niaeth cofiwch) galw mewn yn fiji neu thailand. y byd gwyn, saesneg, saff......

fe wnes i gwrs tefl, gall unrhyw un ddysgu saesneg yn enwedig gyda'r tystysgrif hyn, mae e yn costio ddo. dy fyd fydd dy wystrys...

PostioPostiwyd: Llun 27 Maw 2006 11:17 am
gan docito
Gowpi a ddywedodd:sai'n gweud fod hyn wedi codi yn y drafodaeth hon, ond mae e'n mynd ar fy nhits pan ma' rhywun yn gweud ei bod am fynd i weld y byd ac yn mynd i awstralia, seland newydd, uda, a falle (er mwyn y gwa'niaeth cofiwch) galw mewn yn fiji neu thailand. y byd gwyn, saesneg, saff......


Deall dy bwynt di. Dyw e ddim yn mynd ar yn dits i ond fi yn meddwl bod pobl yn twyllo'i hunanun pan eu bod yn dweud eu bod yn mynd i 'deithio'r byd' neud i 'weld y byd' pan eu bod yn mynd i Thai/Fiji/Oz/SN/UDA. Ma pobl bellach yn sylweddoli bod mynd i Ibiza/Koz hyd yn oed Prague ddim wir yn rhoi agoriad llygaid i rhywun o ddiwylliant a bywyd estron/egsotig ac ma hyn bellach yn wir am y daith i oZ ayb. Fi di dweud e o'r blan: Os chi eisiau amser eich bywyd, meddwi'n rhacs gyda gwyddelod a saeson a uffar o laff ewch ar y daith yma. Os chi eisiau dysgu rhwbeth ewch i rhwle arall

PostioPostiwyd: Llun 27 Maw 2006 11:37 am
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
swni'n licio cymryd blwyddyn allan unai cyn dechrau yn brifysgol neu y flwyddyn ar ol graddio (hynny yw os dwi'n mynd i brifysgol).

be dachi feddwl yw'r gorau, flwyddyn allan cyn coleg, ta blwyddyn cyn dechrau gweithio?

PostioPostiwyd: Maw 28 Maw 2006 4:56 pm
gan khmer hun
Dewi a ddywedodd:be dachi feddwl yw'r gorau, flwyddyn allan cyn coleg, ta blwyddyn cyn dechrau gweithio?


Y ddou? Fel rhywun sy wedi dala'r byg ond heb adael iddo fe hedfan ddigon, fi'n teimlo es i'n blas