Pryd ti'n cyrraedd na, mynna gopi o cylchgrawn Time Out o'r llefydd gwerthu papurau. Mae'n rhoid digon o wybodaeth am y holl digwyddiadau, llefydd diweddaraf i siopau, bwyta ac yfed. Werth bob ceiniog.
Dos i China Town i gael bwyd ond cadwa draw o Little Italy, dipyn o tourist trap erbyn hyn. Arferaf i fynd allan i ardaloedd lawr yn East Village ac Alphabet Street, dyna lle oedd ei mannau mwyaf ffasiynol ar y pryd. (Mae hyn tua 5 mlynedd yn ol). Lle'n llawn o llefydd werth chweil
Lle da i fynd i yw
Chumley's, sef hen speakeasy, werth i fynd. Arferai i bobl enwog IAWN hangio gwmpas y lle, Robert Kennedy, Bob Dylan a Steinbeck fel esiampl.
Gwna siwr bod ti mynd i
White Horse Tavern hefyd, dyna ble arferai Dylan Thomas arfer yfed.
Os tisio gweld yr amgueddfeydd, werth mynd i rhai fyny ger Central Park. Metropolitan Museum, Natural History Museum ac mae Museum of Modern Art . Ond un lle da sydd werth mynd i yw'r
Lower East Side Tenement Museum.
ardal orau i siopa oedd Soho (south of houston street), dewis wych o siops.
Eniwe, mae na wefan da o'r enw
City Search sydd yn rhoi digon o wybodaeth am y ddinas