Gwlad Pwyl

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwlad Pwyl

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 30 Ion 2006 11:04 am

sian eirian a ddywedodd:
Robin Banks a ddywedodd:Dwi'n mynd i Wlad Pwyl mis Chwefror nesaf, oes na unrhyw wybodaeth bwysig dwi angen ei wybod cyn mynd... er engrhaifft yr oed gyfreithiol yfed? :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan garynysmon » Llun 30 Ion 2006 12:54 pm

Neb wedi bod i Lodz felly? Dwi'n gobeithio'n wir bydd y tywydd garw wedi gwella erbyn pryd dwi'n mynd ar y 18fed. :?
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Huw Psych » Llun 30 Ion 2006 4:49 pm

Dwi heb fod yn Lodz yn bersonol de!

Ma trafeilio yn fwy o'r gwledydd dwyreiniol hynny yn tynnu dwr i'n nannedd i hefyd! Mi gawso ni wahoddiad i fynd i wyl yn Belarws, gwlad sydd dal yn 'gomiwnyddol' er ei bod yn wlad ddemocrataidd! Mi yda chi angan visa i fynd yno, ond ddaeth na ddim o'r gwahoddiad! :rolio:
Ma lot o'r gwledydd o gwmpas fanna yn debyg, ond ma nw'n wahanol iawn i'r gwledydd gorlleiwnol, na wfft i'r gorllewin!!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan pogon_szczec » Llun 30 Ion 2006 11:54 pm

garynysmon a ddywedodd:Neb wedi bod i Lodz felly? Dwi'n gobeithio'n wir bydd y tywydd garw wedi gwella erbyn pryd dwi'n mynd ar y 18fed. :?


Bues i'n Ł
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan garynysmon » Mer 22 Chw 2006 11:01 pm

Wel, dwi wedi dychwelyd o Wlad Pwyl yn saff mewn un darn. Y peth cyntaf i synnu mi, ac am Lodz yn bennaf yw pa mor rhad yw popeth. Yn ail, oedd pa mor hynod o dlawd ydi'r ddinas. Heblaw am Petroska street, mae gweddill y ddinas bron yn slym. Mae fel fod holl gyfoeth wedi'i wario ar un stribed gan adael y gweddill fynd i'r diawl. Roedd stad y lonydd a'r adeiladoedd yn ddrwg iawn ar y cyfan.
Doedd twristiareth ddim yn bodoli bron a bod. Fe gafon Newyddiadurwyr lleol yn ein holi, yn bennaf be ddiawl oeddan ni'n da yn Lodz, gan fod hyd yn oed y tymor peldroed ar ei wyliau Gaeafol. Yr ateb syml i hynny oedd i gael amser da mewn rhywle newydd!

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Ma Zywiec yn gwrw Pwyleg da.


Ia, mae o'n neis, ond well gen i Lech i fod yn onest. Fy ffefryn i oedd rhyw gonstraptiwn lleol mae'n rhaid, o'r enw 'Strong'. Neis 8)
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Huw Psych » Iau 23 Chw 2006 12:55 am

Bydd rhaid i ni ofyn am gael ymweld a Lodz pan a ni yno yn yr haf!! :lol:

Mae llawer i le yn Pwyl yn debyg iawn i Lodz, y cyfoethog yn bygro i un stryd tra'n fflasho'u cash ar bawb arall! Mae hyn yn wbath ol-gomiwnyddiaeth dybiwn i. Dyna pam mae'n le braf i ymweld a fo, mae trwch y bobl wedi arfer byw dan orthrwm ac rwan yn dod i sytlweddoli sut mae 'cael hwyl'! Fydd hi ddim fel yma yn y gwledydd dwyrain ewrop yn hir iawn eto, felly os gewch gyfle, mae ymweld a nhw yn raid...dwi'n mynd am fy ail ymweliad yr haf yma!! :lol: :lol:

Sut oedd y bwyd yno Gary?

Mae petha mor rhad yno mae'n syrfdanol!!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Iau 23 Chw 2006 12:07 pm

garynysmon a ddywedodd:Y peth cyntaf i synnu mi, ac am Lodz yn bennaf yw pa mor rhad yw popeth. Yn ail, oedd pa mor hynod o dlawd ydi'r ddinas.
gesi'r argraff yma o Pwyl i gyd, pan aethom ni yno tro blaen.

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Ma Zywiec yn gwrw Pwyleg da.

o yndi! mynd i'r pentref (?) sy'n rhoi'r enw i'r cwrw ha ma. - barbaciw, twmpath a grilio sosejys a bara o flaen coelcerth fawr o dan - iym. . . a diogon o Zywiec. rol on gorffennaf! 8)

o.n. sut ma ynganu Zywiec? nes i ofyn am botel o Sufietch yn Llwyau'r Tywydd rhyw benwthnos a ma nhw'n ynganu fo mewn ffordd hollol wahanol i be usish i! :?:
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan garynysmon » Iau 23 Chw 2006 12:13 pm

Ziwich oeddan ni'n ei ddeud, ond gesh i lond bol o hwnnw ar ol chydig a newid i Lech (efo 'ch' cymraeg).

Lle yng Ngwlad Pwyl aethoch chi, dwi'n gaeth i gaws? Wnawson ni gysidro cymyd tren i Warsaw am y dydd ond jyst mynd am ol-dayer arall wnawson ni'n diwedd.

Cytuno fo Eusebio am y beics. Punt i fynd o un ochr i Petroska street i'r llall efo boi yn pwffian reidio lawr y lon a ni'n lordio hi ar y cefn yn braf. Gwych!
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Iau 23 Chw 2006 12:29 pm

garynysmon a ddywedodd:Lle yng Ngwlad Pwyl aethoch chi, dwi'n gaeth i gaws? Wnawson ni gysidro cymyd tren i Warsaw am y dydd ond jyst mynd am ol-dayer arall wnawson ni'n diwedd.
reit, dwi'm yn dda iawn fo enwa (blaw bo nhw'n enwa cwrw). Os dwi'n rong ma Psych ne Tegwared yn siwr o nghywiro i :rolio: aetho ni i Krakow rol cyrraedd. wedyn odda ni'n aros mewn lle sgio(?) allan yn ganol nunlla. blaw bod hi'n ha felly doedd na'm eira. mynd yno i ddawnsio odda ni ac roedd yr wyl wedi ei lleoli rhwng 3 tref eitha mawr yn ogystal a llwer o bentrefi bach o gwmpas. Warsaw(? - ddim yn siwr os dwi'n cymysgu fo Krakow wan) odd un lle gafo ni orymdaith uffernol o hir dan haul tanbaid ganol pnawn. Fuo ni'n y chwarel halen - ddim yn cofio be odd enw fanno to, fuo ni'n Auswitch (ddim yn cofio sut i'w sillafu ond ddim am fynd nol no to) a fyny rhyw fynydd mewn un o'r sgi liffts na (fel oss ar raglen sgio Dai Jones, jysd heb yr eira) ac mewn amryw o bentrfi bach yn dawnsio. Mynd nol no leni i'r un wyl, edrych ymlaen yn arw!

garynysmon a ddywedodd:Cytuno fo Eusebio am y beics. Punt i fynd o un ochr i Petroska street i'r llall efo boi yn pwffian reidio lawr y lon a ni'n lordio hi ar y cefn yn braf. Gwych!
gafo ni'm cyfla i fynd ar rhein, ond fuo ni'n teithio mewn bys am tua 10 diwrnod, weithiodd allan yn uffernol o rad.
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 23 Chw 2006 5:29 pm

Odda ni'n aros yn yr homar o westy 'ma yn Szczyrk, a fanno fuon ni'n gorymdeithio :winc: Hedfan mewn i Cracow oeddam ni, a fanno oedd y pyllau halen. Fuon ni ddim ar gyfyl Worso (y brifddinas). Fuon ni'n dawnsio yn Istebna, Wisła, Szczyrk, Żywiec, Mak
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai