Gwlad Pwyl
Postiwyd: Sul 27 Tach 2005 9:40 pm
Dwi'n mynd i Wlad Pwyl mis Chwefror nesaf, oes na unrhyw wybodaeth bwysig dwi angen ei wybod cyn mynd... er engrhaifft yr oed gyfreithiol yfed?
Postiwyd: Llun 28 Tach 2005 3:53 pm
16...dwi'n meddwl!!
Lle da i fynd. Os ti'n mynd i'r mynyddoedd gwylia'r eirth, ond fel arall ti'n iawn!!
Fodca rhad a cwrw da, ma hwn yn le gwerth chweil i fynd iddo fo!
Lle da i fynd. Os ti'n mynd i'r mynyddoedd gwylia'r eirth, ond fel arall ti'n iawn!!
Fodca rhad a cwrw da, ma hwn yn le gwerth chweil i fynd iddo fo!
Postiwyd: Llun 28 Tach 2005 5:39 pm
O diolch, dwi'n edrach ymlaen fwy wan, ydi cig arth yn neis dwad? Rhaid i fi finio'r waewffon!
Postiwyd: Maw 29 Tach 2005 3:56 pm
Yr unig beth ti angan efo arth ydi camra...tynna'i lun cyn iddo fo fyta chdi a fydd pobl yn gwbo sud ges di dy ladd wedyn!!
Pa ardal ti'n mynd?
Pa ardal ti'n mynd?
Postiwyd: Maw 29 Tach 2005 8:46 pm
I Krakow, a dwi'n mynd Auschwitz hefyd. Sginim syniad pa rhan o Krakow dwi'n mynd chwaith.
Postiwyd: Maw 29 Tach 2005 9:47 pm
Bues i'n perfformio mewn gwyl theatr yng Ngwlad Pwyl yn y nawdegau, ac roedd yn brofiad rhagorol. Maent yn cymryd y celfyddydau o ddifri iawn yno, sy'n beth da, felly (os taw hyna yw dy 'fag') cer i weld rhywfaint o theatr os gei di gyfle. O'n i mewn tref canoloesol hardd iawn o'r enw Torun, sydd definately werth ymweliad os da ti diddordeb mewn adaeladau o'r cyfnod. Roedd y seryddwr(?) arloesol Copernicus yn dod o na, mae'n debyg. Wrth gwrs, mae'n gymharol chep na. Enjoia dy hun.
Postiwyd: Mer 30 Tach 2005 1:00 am
Y Crochenydd a ddywedodd:Maent yn cymryd y celfyddydau o ddifri iawn yno, sy'n beth da,
Gwir, gwir. Bues mewn gŵyl Ddawnsio gwerin yno gyda rhai degau o dimoedd ar draws y byd. Gŵyl oedd yn mynd rhwng 6 thref felly yn eithaf mawr. Ymhob cyngerdd roedd 5/6 t
Postiwyd: Mer 30 Tach 2005 11:02 am
Robin Banks a ddywedodd:I Krakow, a dwi'n mynd Auschwitz hefyd. Sginim syniad pa rhan o Krakow dwi'n mynd chwaith.
Mae dinas Krakow yn hyfryd ac os ti'n aros yn yr hen ddinas, paid ag yfed yn y sgwar yn y canol, mae'r prisiau'n rip-off.
Mae yna far Gwyddelig sydd ddim yn far Gwyddelig, os ti'n deall be sydd gen i - dim trappings Guinness a shamrocks tacky, dim ond fod y bar y cael ei redeg gan Wyddel - sydd yn wych ac phan roeddwn i yno, roedd llwyth o fyfyrwyr ffilm o Ganada yn mynychu'r bar. Mae 'na glwb/disgo gerllaw hefyd ond paid gofyn i mi beth oedd ei enw.
Hefyd, gwna'n siwr dy fod yn mynd am reid ar un o'r beiciau sydd
Postiwyd: Mer 30 Tach 2005 1:11 pm
Robin Banks a ddywedodd:dwi'n mynd Auschwitz hefyd.
ych, ych, ych,. . . es i i Auschwitz tro dwytha o'n i na. . . mae o'r lle mwyda ffiaidd elli di fynd. . . ti'n clwad gymaint am yr 2il ryfal byd etc pan ti'n rysgol ond ti'm yn ystyried na sylweddoli pa mor fawr odd graddafa'r holl beth. . .werth mynd yno i weld. . . ond dio ddim yn neis. . .
Huw Psych a ddywedodd:16...dwi'n meddwl!!
dwi'n siwr dda chdi'm yn cwyno'r tro dwytha odda ni na
Postiwyd: Mer 30 Tach 2005 7:04 pm
Mi odd raid i fi fahafio tro dwytha doedd...mi oedd mam yna! Does na dim son am drip arall yno ha' nesa ma?!
Eniwe!! Ia, dos i Auchwitz, ond paid a disgwyl dim byd neis! Mae o reit syreal i ddeud y gwir. Does na ddim llawer o'm byd ar ol yna bellach, ond ma na awyrgylch i'r lle.
Ma'r mwyngloddfeydd halan y wych! Os ti mewn grwp ma'n werth cal tour, ond os ti'n gneud hyn gna'n siwr fod nw'n gwbo mae Cymr, nid Sais w t!! Ma gas ganddy nw saeson (Pwy sy ddim?!)!!
Ma na gwrw o wlad pwyl yn cael ei werthu yn Wetherspoons ar hyn o bryd Zywiec. (Cal ei ddeud yn Bwyleg fel sif-i-ech, h.y. -ech fel ech&sketch!!) Enw pentra ydi o, a ma na homar o ffatri fawr ynghanol y pentre yn neud y cwrw!! Lager ydi o - sdwff da!! Mi odda nw'n noddi un o'r gwylia i fi a Teg fynychu...y dyddia da!
Chydig o Bwyleg i chdi:
Jindobre - bora da (dwi'n meddwl)
...argol dwi di anghofio gweddill y pwyleg odd gyna i! Ellith rywun aral helpu?!