gan Gowpi » Mer 19 Ebr 2006 10:41 pm
Es i lan am gyfeiriad y castell yn chwilio am swper liw nos ac yn digaloni fod y llefydd bwyta mor ddrud yn yr ardal dwristaidd honno, tan inni ddod ar draws lle bwyta nid prydferth, rownd troad i lawr o'r castell. Bwydlen uniaith Tsiec ar y tu fas, y ffenestri yn dywyll, ond odd y bola yn gweiddi. Ishte mewn stafell odd yn edrych fel hen fan cyfarfod y Comiwnyddion, ac archebu, a munud i fewn i'r pryd ffantastic cerddoriaeth roc trwm yn sgrechian drwy ffenestri mawr odd yn arwain i stafell / neuadd fawr a golau coch yn disgleirio trwy'n man bwyta. O'n i reit drws nesaf i gig hiwj, so ethon ni lawr da'n cwrw a'r waiters yn dymuno pob hwyl inni!
Un o'r dinasoedd prydferthaf i fi erioed ymweld, llawn Americans ddo...
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.