Tudalen 1 o 2

Prag

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2005 7:00 pm
gan Hogyn o Rachub
Heia.

Dw i'n trefnu trip i Prag tuag at mis Ebrillish, at lle dylwn i fynd am ffleits rhad (ella rhywle yn gwneud rhyw fath o ddiscownt myfyrwyr?)? Pa math o lefydd sy 'na i aros yno (eto'n rhad) a tua faint fydda fo'n costio am rhyw deuddydd?

'Swn i'n gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth!

Diolch!

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2005 7:07 pm
gan DO84

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2005 7:29 pm
gan Norman
Dwin meddwl na mond EasyJet a RyanAir sydd ar ol or 'Budget Airways' go iawn - mae'r gweddill di cael eu prynnu neu mynd ir wal.
Corect mi uff aim rong llu de.

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2005 8:35 pm
gan Siliseibyn
Dwi am Prague dros y flwyddyn newydd, ar lastminute.com gesh i o, digon rhesymol. Tra da ni ar y pwnc, rywun efo awgrymiada lle i fynd aballu?

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2005 8:43 pm
gan Gwyn T Paith
Atlas Bar :P

PostioPostiwyd: Maw 29 Tach 2005 2:22 pm
gan Jeni Wine
Dos efo bmi baby o Gaerdydd - mi ges i ffleit am

PostioPostiwyd: Mer 30 Tach 2005 3:15 pm
gan Elsan
Clwb nos gwych ym Mhrag-Hany Bany. Mae o'n yn ofnadwy o classy a bydd gofyn am wisgo yn smart a bod yn barod i wario bom. Mae o jest tu allan i'r Holiday Inn (dwnim pa un....) a jest dilyn y carped coch i mewn. Cofiwch chwarae efo gwallt yr hogan stoned sydd bob tro yn ista tu allan.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Rhag 2005 12:47 pm
gan Cwlcymro
BMIbaby o Gaerdydd gatha ni hefyd, digon rhad. Arosa yn rhwla rhyw 10 munud (cerddad) o'r canol, lot rhatach.

A'r prif tip ydi peidio bod yn goci a peidio stampio dy docyn metro, tua 8 ceiniog ydio, ond ma'r ffein wrth gael dy ddal (a MI gei di dy ddal!) yn

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ebr 2006 10:01 am
gan Hogyn o Rachub
Cwlcymro a ddywedodd:A'r prif tip ydi peidio bod yn goci a peidio stampio dy docyn metro, tua 8 ceiniog ydio, ond ma'r ffein wrth gael dy ddal (a MI gei di dy ddal!) yn

PostioPostiwyd: Mer 19 Ebr 2006 10:41 pm
gan Gowpi
Es i lan am gyfeiriad y castell yn chwilio am swper liw nos ac yn digaloni fod y llefydd bwyta mor ddrud yn yr ardal dwristaidd honno, tan inni ddod ar draws lle bwyta nid prydferth, rownd troad i lawr o'r castell. Bwydlen uniaith Tsiec ar y tu fas, y ffenestri yn dywyll, ond odd y bola yn gweiddi. Ishte mewn stafell odd yn edrych fel hen fan cyfarfod y Comiwnyddion, ac archebu, a munud i fewn i'r pryd ffantastic cerddoriaeth roc trwm yn sgrechian drwy ffenestri mawr odd yn arwain i stafell / neuadd fawr a golau coch yn disgleirio trwy'n man bwyta. O'n i reit drws nesaf i gig hiwj, so ethon ni lawr da'n cwrw a'r waiters yn dymuno pob hwyl inni!

Un o'r dinasoedd prydferthaf i fi erioed ymweld, llawn Americans ddo...