Mynd i sgio/Eir-Fyrddio?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mynd i sgio/Eir-Fyrddio?

Postiogan Aelod Llipa » Iau 08 Rhag 2005 11:20 pm

Meddwl base hwn yn fwy perthnasol yma na o dan yr adran Chwaraeon. Oes yna unrhyw faeswyr yn mynd i ffwrdd y gaeaf 'ma i sgio?
Dwi'n mynd gyda fy mrawd ar Ionawr 14, ond heb benderfyny ar union le eto.
Dwi'n eitha ffansio mynd i'r Dolomites am newid, unrhyw un wedi bod?
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Norman » Gwe 09 Rhag 2005 12:28 am

Ffrind i mi newydd fynd i awstria i weithio mewn rhyw hotel am 5mis - Dwin meddwl mynd ato diwadd y tymor, gobeithio cael lletu am ddim a ballu. Heb fod yn sgio na snoboardio tu allan ir DU ers 2003 - teimlo fel oes !!

Yn yr Eidal mae'r Dolomites ia ? - roed di bod yn fano ddeu gwir ! Heblaw am y lletu rhad sydd i gael efo'm ffrind - swni'n dewis yn ol prisha ffleits dwin meddwl !
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan sion blewyn coch » Gwe 09 Rhag 2005 12:00 pm

Dwin mynd ym mis chwefror i Courchevel 1650m yn Ffrainc, edrych ymlaen yn fawr de! Mae on ran o'r "Les Trois Valles" yn yr Alpau. Dwi wedi bod yn Courchevel 1850m dwy flynnedd yn ol, man resort hollol wych, er un peth nesh i ffeindio oedd ei fod on UFFERNOL o ddrud, dyna pam da nin mynd ir resort sydd is i lawr y mynydd tro ma.
Lle su ddim mor wych ydy ardal Tirol yn Awstria, ardal bendigedig, ond sgio uffernol.
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Postiogan Cwlcymro » Sul 11 Rhag 2005 7:06 am

Esi i Courchavel 1850 flynyddoedd yn ol, digon neis. Y gwir ydi, am y sgio gora ma rhaid mynd i America. Ma llefydd fel Vail a Beaver Creek efo teirgwaith gymaint o runs na Chamonix, Galtur, Ischgl a hyd yn oed y Trois Valles (uffernol o blydi drud ddo!)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cynyr » Sul 11 Rhag 2005 1:26 pm

Cwlcymro a ddywedodd:. Ma llefydd fel Vail a Beaver Creek efo teirgwaith gymaint o runs na Chamonix, Galtur, Ischgl a hyd yn oed y Trois Valles (uffernol o blydi drud ddo!)


Anghytuno a ti sori :winc: Chamonix ydy 'Mecca' pan mae'n dod i fynyddoedd!! :crechwen: fues i'n byw yna am chwe mis a mae'r lle yn ffantastig (well na lefydd yng Ngogledd America). Er wedi dweud hynny mae'n well osgoi Cham os ti jest ishe cadw a'r y 'piste' ag mae'n rhiad treulio lot o amser 'na!!
Eniwei, dwi methu aros i fynd allan gaeaf 'ma. Mynd allan i Awstria dros y flwyddyn newydd i weld hen ffrindiau a yffach o lot o fyrddio. Gobeithio mynd i Chamonix erbyn ddiwedd y tymor i ddal y 'spring powder'!!
Mynyddoedd eira ydy'r awyrgylch gorau fod ynddi..ccmmoonn! :crechwen: :crechwen:
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Postiogan Aelod Llipa » Llun 12 Rhag 2005 2:51 pm

Dwi wedi sgio yn y "3 Valley" ddwy waith, ac mae'n rhaid i mi argymell sgio yn ardal La Tania, drws nesaf i Courchevel. Mae'n hollol wych i sgio drwy'r coed pin. Fy hoff lethr yw'r un Du o'r enw 'Jockey', un serth, ond gyda digon o amrywiaeth.

Dwi wedi bwcio i fynd i Selva val Gardena ar Ionawr 14. Unrhywun wedi bod yno?
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Cwlcymro » Llun 12 Rhag 2005 3:49 pm

Cynyr a ddywedodd:Anghytuno a ti sori :winc: Chamonix ydy 'Mecca' pan mae'n dod i fynyddoedd!! :crechwen: fues i'n byw yna am chwe mis a mae'r lle yn ffantastig (well na lefydd yng Ngogledd America). Er wedi dweud hynny mae'n well osgoi Cham os ti jest ishe cadw a'r y 'piste' ag mae'n rhiad treulio lot o amser 'na!!


Dwin gwbo fawr ddim am yr agwedd off-piste, ond o ran niferoedd, cyflwr a "variation" pistes dwi heb weld dim byd i fatcho Beaver Creek. Sgenaim atgofion gwych o Chamonix, ond ella fodm lot o hunna lawr i fod yn sdyc mewn lifft cadair agored, efo tri o almaenwyr, am dri chwartar awr, heb gogls (oni di roi menthyg nhw i ryw hogan del!) mewn storm anfarth.

Ac i unrhywun sydd unai angan ysgol sgio, neu efo plant angan ysgol sgio, dosna ddim byd yn dod yn agos i rai America.

O ran Ewrop, swn i'n c ynnig ffendio pentra bach efo slopes ei hun ond sydd wedi ei gysylltu efo resort mwy. Ma Saint Martin de Belleville yn ne Ffrainc yn eitha da fel yma,mae o yn fach a tawal, ond man bosib sgio drosodd ir Trois Valle mewn chwartar awr.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Llyfwr Pwdin Blew » Mer 21 Rhag 2005 12:40 pm

Lle su ddim mor wych ydy ardal Tirol yn Awstria, ardal bendigedig, ond sgio uffernol.


Wyt ti wedi bod i St. Anton (Tyrol)?
Digonedd o sgio serth sy'n sialens i unrhywun.


Er wedi dweud hynny mae'n well osgoi Cham os ti jest ishe cadw a'r y 'piste' ag mae'n rhiad treulio lot o amser 'na!!


Beth sy'n bod ar y piste yn Chamonix - dim sialens?
Dwi wedi clywed bod y llethrau yn anodd iawn yno.
Rhithffurf defnyddiwr
Llyfwr Pwdin Blew
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 239
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 10:43 am
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Cynyr » Iau 22 Rhag 2005 11:44 am

Llyfwr Pwdin Blew a ddywedodd:Beth sy'n bod ar y piste yn Chamonix - dim sialens?
Dwi wedi clywed bod y llethrau yn anodd iawn yno.


Dim byd o gwbl, yr unig peth yn Cham (os ti jest yn mynd am wthnos yw fod angen bysiau i fynd i'r gwahanol ardaloedd (Le Flegere, Les Tours) bach o hassle! Ond y cefn gwlad (backcountry) sy'n denu llawer i'r lle. Ydy mae'r piste yn dda ond o bosib ma na well cyrchfannau os ti am gadw i fannau tebyg. Merribel, Les Arcs, Val d'Isere yn wych!!

Methu aros..... llai na wthnos i fynd. Bach o ddringo ia a yffach o lot o 'snowbordo' 8) 8) 8)
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai