Ma'r Wlad yn un hynod o ddiddorol.
Base'n i'n argymell bo ti'n gweld Melaka, KL a Penang (yn anhygoel gweld cymaint o ddiwylliannau a hiliau yn cydfyw mor intigredig) ar y peninsiwla
Yr un peth base'n i wir yn dweud y ddyle ti neud yw i hedfan i Borneo (rhan arall o Malaysia). Fan yna alle di ddringo Sylawese sef mynydd ucha de ddwyrain Asia sy'n ddigon hawdd i'w gwblhau a gweld pob fath o fywyd gwyllt (orangatans ayb)
Ma hedfan yna yn ddigon rhad bellach gyda http://www.airasia.com (easyjety cyfandir) a alle di cal flight yn hawdd i borneo.
Un peth arall. Os ti'n cal cyfle cer i Cameron Highlands am ddiwrnod neu ddau. Ma fe'n bentref alpaidd yn y brynnie yng nghanol y peninsiwla. Dim byd i wneud ond mwynhau'r awyr ffres a cherdded heb gwlychu dy hun a chwys.
Mwynha