Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 01 Chw 2006 12:54 pm
gan docito
Ma'r Wlad yn un hynod o ddiddorol.

Base'n i'n argymell bo ti'n gweld Melaka, KL a Penang (yn anhygoel gweld cymaint o ddiwylliannau a hiliau yn cydfyw mor intigredig) ar y peninsiwla
Yr un peth base'n i wir yn dweud y ddyle ti neud yw i hedfan i Borneo (rhan arall o Malaysia). Fan yna alle di ddringo Sylawese sef mynydd ucha de ddwyrain Asia sy'n ddigon hawdd i'w gwblhau a gweld pob fath o fywyd gwyllt (orangatans ayb)
Ma hedfan yna yn ddigon rhad bellach gyda http://www.airasia.com (easyjety cyfandir) a alle di cal flight yn hawdd i borneo.
Un peth arall. Os ti'n cal cyfle cer i Cameron Highlands am ddiwrnod neu ddau. Ma fe'n bentref alpaidd yn y brynnie yng nghanol y peninsiwla. Dim byd i wneud ond mwynhau'r awyr ffres a cherdded heb gwlychu dy hun a chwys.

Mwynha

PostioPostiwyd: Mer 01 Chw 2006 1:03 pm
gan Llefenni
Diolch doc - ond yno gyda gwaith, prin 6 niwrnod i'm hunan yno - a dwi'm yn siwr os di'r criw am hedfan allan i unrhwle arall ar y daith :( Ond rili edrych mlaen am KL, edrych yn nyts yno o be dwidi'w weld!