Dyma'r gaeaf oeraf yng Ngwlad Pwyl am dros deng mlynedd. 177 wedi marw dros yr wlad i gyd.
Yn Szczecin, heddiw, mae'r tymheredd rhwng -10 a -20C, ond dyma rhan cynhesaf yr wlad.
Yn Suwalki, yn y dwyrain, mae'n mynd yn agos at -30C.
Mae'r harbwr wedi rhewi yn llwyr.
Ond nid yw hynny yn stopio'r morsy (pobl sy'n nofio mewn tymheredd o dan 0C) rhag mynd i mewn i'r dwr.
Dwi wedi tynnu lluniau o bobl yn nofio yn y llyn lleol 11 o'r gloch yn y bore, (tymheredd -12C).
Yn anffodus, dwi ddim yn gwybod sut mae hala lluniau at fwrdd sgwrsio.
Baswn i'n ddiolchgar tase rhywun yn dangos i fi sut i'w wneud.