Tudalen 1 o 1

Morsy-(Walrysod):

PostioPostiwyd: Sul 22 Ion 2006 10:30 pm
gan pogon_szczec
Dyma'r gaeaf oeraf yng Ngwlad Pwyl am dros deng mlynedd. 177 wedi marw dros yr wlad i gyd.

Yn Szczecin, heddiw, mae'r tymheredd rhwng -10 a -20C, ond dyma rhan cynhesaf yr wlad.

Yn Suwalki, yn y dwyrain, mae'n mynd yn agos at -30C.

Mae'r harbwr wedi rhewi yn llwyr.

Ond nid yw hynny yn stopio'r morsy (pobl sy'n nofio mewn tymheredd o dan 0C) rhag mynd i mewn i'r dwr.

Dwi wedi tynnu lluniau o bobl yn nofio yn y llyn lleol 11 o'r gloch yn y bore, (tymheredd -12C).

Yn anffodus, dwi ddim yn gwybod sut mae hala lluniau at fwrdd sgwrsio.

Baswn i'n ddiolchgar tase rhywun yn dangos i fi sut i'w wneud.

PostioPostiwyd: Sul 22 Ion 2006 10:42 pm
gan Tegwared ap Seion
dwi'n credu bod rhaid iddynt fod ar y w

PostioPostiwyd: Llun 23 Ion 2006 9:16 am
gan Norman
Gan bod nunlle i lwytho llunia ar y maes ei hun, ti angen agor galeri ar wefan fel,
http://www.flickr.com/
http://www.fotopic.net/
http://www.myphotoalbum.com etc etc

Unwaith ti wedi gwneud hyn, mi allidi lincio or maes i'r llunia trwy ddefnyddio eu URL.

. . .edrych mlaen i weld y llunia !

PostioPostiwyd: Llun 23 Ion 2006 12:51 pm
gan Chwadan
Ma'n ffrind i'n dod o ddwyrain yr Almaen ac yn deud ei bod hi'n -18 yn ei chartref hi bore 'ma. Brrrr!

PostioPostiwyd: Llun 23 Ion 2006 9:49 pm
gan pogon_szczec
http://www.flickr.com/photos/29512748@N00/90361669/

Tasen i'n ddiolchgar, base rhywun yn eu rhoed nhw ar yr edefyn, heb rhaid defnyddio linc.

Mae rhagor gen i.

Nid yw'r ansawdd yn dda oherwydd mod i wedi'w tynnu gan defnyddio ffon symudol.

Tymheredd Toruń dros nos -31C.

Beth mae maeswyr yn eu meddwl am morsy :?:

A yw'r syniad yn apelio at rywun ar y maes :?:

Gyda llaw, wythnos diweddaf oedd Nadolig yn Rwsia, a mae rhai yn ei ddathlu trwy nofio mewn afon wedi'i rhewi.

Dyma'r tywydd ar hyn o bryd:

http://www.wp.pl/r/301039

PostioPostiwyd: Llun 23 Ion 2006 10:41 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
braidd yn beth lemonaidd i'w wneud yntydi, i be sa riwyn yn gwneud ffasiwn beth?

PostioPostiwyd: Llun 23 Ion 2006 11:03 pm
gan Erin Madocs
ydi bobl im yn neud hyn ar ddwrnod cyntar flwyddyn yn llandudno weithia? yn amlwg, dim gymaint o rew falla.

dwi wedi plymio dan rew ganol nos mewn llyn yn ffrainc cwpwl o wsnosa nol, ond mi odd genai wetsuit a tanc ocsigen. brilliant fyd, ond swnim yn licio trio hyn.

dewi- licio dy ansoddair newydd di - 'lemonaidd' rhaid imi gofioi ddefnyddio! :winc:

PostioPostiwyd: Llun 23 Ion 2006 11:03 pm
gan Norman
I roi llun mewn neges, defnyddia y botwm 'Img' [ sydd iw gael tra'n ysgrifennu'r neges. mae'r botwm wedi'w leoli rhwng y gwagle ar gyfer teitl y neges, ar gwagle ar gyfer y neges ei hun]
Wedi i ti ei bwyso unwaith, mae angen rhoi cyfeiriad URL y llun mewn [iw gael drwy dde-glicio > properties . ar y llun sydd yn dy gyfri flickr]
Yna clicio 'Img' eto. Rwy'n argymell defnyddio y botwm 'Rhagolwg' i weld os weithiodd !

Dyma dy lun. . .

Delwedd


Ydi'r poblach ma'n hanner marw erbyn iddy nhw ddod allan ? - Di clywed bod pobl i fod i rowlio yn yr eira wedyn nebath ?!

Ydio'n draddodiad nofio ar lan mor aberystwyth yn y gaeaf ? ta jus amball feddwin sy'n gneud ?

PostioPostiwyd: Maw 24 Ion 2006 10:00 pm
gan pogon_szczec
Norman a ddywedodd:

Ydi'r poblach ma'n hanner marw erbyn iddy nhw ddod allan ? - Di clywed bod pobl i fod i rowlio yn yr eira wedyn nebath ?!



Diolch am y help.

Byddaf yn tynnu rhagor o luniau yn y dyfodol agos. Er enghraifft, mae'r mor wedi'i rhewi erbyn hyn.

O ran y morsy, mae'n nhw'n edrych yn binc iawn, fel cimychiaid (lobsters), ar ol iddyn nhw wedi bod yn y dwr.

Ond mae'r dwr yn dwym o dan yr ia +6C. Mae'n nhw wastad yn dweud wrth y gwylwyr ei bod yn gynhesach yn y dwr nac yn yr awyr agored.

Mae pobl yn rowlio yn yr eira ar ol cael sauna yn Finland.

Dyma llun arall o 'walrws' yn dathlu Nadolig yn Rwsia.

http://news.bbc.co.uk/2/hi/in_pictures/4627080.stm#

Ac erthygl am y 'rhewi mawr':

http://news.bbc.co.uk/2/hi/europe/4643718.stm