Tudalen 1 o 1

Yr oed i ddreifio dramor?

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 6:21 pm
gan sion blewyn coch
help pliiis!
dwi heb basio fy nhest dreifio eto, ond dwi'n gobeithio neud ymhen ryw dri mis. hefyd dwi an ffrindia yn gobeithio mynd am "road trip" ar hyd arfordir Llydaw yn yr haf, tan i ni glywad y bysa rhaid i ni ddisgwyl tan bo nin 21 cyn gneud (da nin 17), ydy hyn yn wir? neu oed rhaid aros hyn a hyn o amser ar ol pasio cyn cael dreifio dramor?

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 7:06 pm
gan 7ennyn
Mae cwmniau llogi ceir fel arfer a chyfyngder oedran (21 neu 25). Os mai mynd a dy gar dy hun drosodd wyt ti'n fwriadu ei wneud, yna dwi'n meddwl mai rhyngthat ti a dy bolisi insiwrans ydi o. Mae'n rhaid i ti fod yn 18 i yrru yn Ffrainc, hyd yn oed os oes gen ti drwydded Prydeinig llawn.
Gwefan yr RAC a gwybodaeth defnyddiol.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 8:11 pm
gan huwwaters
Um, 18 ydio ar cyfandir gorllewin Ewrop.

Bydde ti'n cael gyrru ar y cyfandir yn 18, hyd yn oed fel named driver. Dyna wnes i yr haf yma, tra'n 18, a gyrru i fyny at Berlin.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 10:07 pm
gan 7ennyn
huwwaters a ddywedodd:Um, 18 ydio ar cyfandir gorllewin Ewrop.

Bydde ti'n cael gyrru ar y cyfandir yn 18, hyd yn oed fel named driver. Dyna wnes i yr haf yma, tra'n 18, a gyrru i fyny at Berlin.

Ond darllen dy bolisi insiwrans yn ofalus rhag ofn! :winc:

Re: Yr oed i ddreifio dramor?

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 10:15 pm
gan Dewi Bins
sion blewyn coch a ddywedodd:help pliiis!
dwi heb basio fy nhest dreifio eto,


wels pasia ta a wedyn fydd tin gwbod fod gei di ddreifio yn lle gofyn yn fama a ella neidi ddim pasio.

Re: Yr oed i ddreifio dramor?

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 10:21 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
Dewi Bins a ddywedodd:
sion blewyn coch a ddywedodd:help pliiis!
dwi heb basio fy nhest dreifio eto,


wels pasia ta a wedyn fydd tin gwbod fod gei di ddreifio yn lle gofyn yn fama a ella neidi ddim pasio.

dylan paid a malu cachu!!!!!

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 1:02 am
gan Blewyn
Perswadia dy Dad i symud y teulu i Saudi Arabia a mi gei ddreifio beth bynnag ti'n licio - yr unig amodau yw dy fod gen ti bidlan, a dy fod yn gallu gweld dros yr olwyn llywio (ond mae nhw'n reit flexible ar hynny).

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 1:25 am
gan Mali
:lol:
Difyr...
Pawb yn dreifio yma yn 16 oed . Dwn i ddim am road trips ond mae'r rhan fwyaf yn dreifio eu hunain i'r ysgol . :winc:

PostioPostiwyd: Iau 02 Chw 2006 1:30 pm
gan gwern
Rentia nei pryna scooters ti yn gweld plant tia 14 yn dreifio nhw.