O Sbaen i Morocco

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

O Sbaen i Morocco

Postiogan docito » Gwe 03 Chw 2006 2:06 pm

Yn meddwl mynd i ffwrdd am rhyw fis yn yr ha i forocco. O'n i'n meddwl ma'r ffordd rhata a mwya diddorol bydde i hefan i Malaga ac yna i ddal y fferi o De Sbaen i Forocco. Os unrhyw un wedi wneud hyn? Os ffyrdd rhatach i gyrraedd gogledd Affrica? Gall rhoi unrhyw dips ar gyfer backpackio, sori - flashpackio yn y wlad?
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan AFFync » Llun 06 Chw 2006 2:31 pm

Wnes i fynd o Sbaen i Morocco ar gwch.

Elli di fynd o Almeria i Nador sydd dan rholaeth Sbaen ond yn Morocco lle gelli di wario dy Pesetas ac wedyn dal bws o fan yno. Mae hi yn hollol wahanol unwaith ti wedi croesi'r ffin a mae'n taith reit hir i'r dinasoedd (ges i siwrne tua 8 awr ar fws gyda seti plastic a roedd fy magiau ar fy mhenglinyr holl fordd - ond wnes i cyfarfod llwyth o pobol uffrenol o caredig).

Fordd arall i fynd yw dal y gwch yn Algeciras i Tangiers ag wedyn teithio i Fez ac wedyn i lawr i Maraccesh ar tren neu ar fws - dwi'n meddwl fod hyn yn lot hawsach.

Wnes i drafeilio yno gyda tair o bobol a wedyn wnes i fynd o gwpas ar ben fy hyd a ges i uffar o amser da a gwneud llwyth o ffrindiau newydd!

Os wyt ti esiau cyngor am llefydd i fynd jest holi.
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

Postiogan docito » Llun 06 Chw 2006 5:04 pm

O Plis. CYmaint o wybodaeth a phosib.

Newyd bwcio fleit i Malaga a nol 3 wsnos yn ddiweddarach.
Ffaint bydde fferi'n costio i Tangiers? Beth base ti'n dweud y dylswn i neud mewn pythefnos a hanner? Hoffwn i wario cwpwl o ddiwrnode ar lan y mor? Beth am prisiau?
diolch
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan AFFync » Llun 06 Chw 2006 7:13 pm

docito a ddywedodd:O Plis. CYmaint o wybodaeth a phosib.

Newyd bwcio fleit i Malaga a nol 3 wsnos yn ddiweddarach.
Ffaint bydde fferi'n costio i Tangiers? Beth base ti'n dweud y dylswn i neud mewn pythefnos a hanner? Hoffwn i wario cwpwl o ddiwrnode ar lan y mor? Beth am prisiau?
diolch



Lan Y Mor - Essaouira.
Mae ffrind yn byw allan yno ag mae gwr hi yn dysgu pobol i syrfio - wnai ofyn lle dylset ti aros. Mae lot o bobol yn dweud bod o'n lle dylset ti fynd i os wyt ti yn y gwlad.

Mae Marrackesh yn lle gwych. Roeddwn i wrth fy mod yn mynd o gwmpas y ddinas ag yn mynd i'r Djemma El Fna gyda'r nos lle weli di bob math o perfformwyr - Mae'r Hotel Ali yn rhad iawn a gei di gwelu mewn stafell mawr o 30 o bobol am tua
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 06 Chw 2006 9:05 pm

Fues i draw i Tangiers am noson ar y fferi o Tarifa. Awydd piciad i gael blas ar Morocco felly gymron ni ryw deal lle roeddet ti'n cael fferi, gwesty a tour o amgylch y sights yn Tangiers.

Y peth oedd, taw tour o amgylch siopau m
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan AFFync » Maw 07 Chw 2006 2:46 pm

Roedd fy'n Ngymraeg i'n defnyddiol iawn tra oeddwn i yn Morocco.

Roedd y pobol yn y siopau yn hasslo fi i prynnu petha ag gyd oeddwn i yn dweud oedd "Dim yn siarad Saesneg". Ar ol dipin wnaeth pawb adael fi lonydd i hasslo pobol eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai