Dwi'n mynd i Berlin wythnos nesa am bedwar diwrnod. Erioed di bod i'r Almaen o'r blaen, edrych mlaen.
Unrhyw awgrymiadau am be i wneud, lle i fwyta a lle i yfed?
Diolch
Meiji Tomimoto a ddywedodd:Os ti isho diwylliant Almaenaidd, dos i glwb Tresor. Cartref ysbrydol Tecno. Dwi dal heb gael dros y profiad.
satswma a ddywedodd:Meiji Tomimoto a ddywedodd:Os ti isho diwylliant Almaenaidd, dos i glwb Tresor. Cartref ysbrydol Tecno. Dwi dal heb gael dros y profiad.
Esh i ir clwb ma noson y Love Parade 2003, complitli ffacin mental! O ni ar cwrs iaith mas yn Berlin am haf ac o ni methu clywed na siarad yn gwersi am wythnos ar ol y noson yna. Ffacin cwl
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai