Tudalen 1 o 2

Berlin

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 1:43 pm
gan Geraint
Dwi'n mynd i Berlin wythnos nesa am bedwar diwrnod. Erioed di bod i'r Almaen o'r blaen, edrych mlaen.

Unrhyw awgrymiadau am be i wneud, lle i fwyta a lle i yfed?

Diolch

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 2:11 pm
gan Chwadan
Cer i ben y twr teledu wedi iddi dywyllu :D

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 2:26 pm
gan Oh dear.Another welshman
Beth am fynd i'r Story Of Berlin

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 2:38 pm
gan krustysnaks
Cer i dop y Reichstag ond cer yno'n gynnar - ma'r ciws yn medru bod yn wael. Gerddi Sanssouci yn Potsdam yn hyfryd hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 3:08 pm
gan huwwaters
Yo!

Berlin yn lle da! Ges i fy sbotio yn fy nghrys Cymru gan ymwelwyr erill [cerdded heibio ryw ddynion]Is that a Wales shirt!? wedyn sioc bod nhw wedi gweld rhywun sy'n agosach o gartref.

Dinas ble nad oes cymaint o bobl yn ymweld yw Berlin.

Bydda'n ofalus ble ti'n meddwl yr wyt. Cofia ble mae'r ochr dwyrain a'r gorllewin. Yr ochr ddwyrain dal i ddioddef o dlodi, ond yr ochr gorllewinol yn llifo efo pres.

Ar gyfer siopau, bwytai aballu, cer i'r stop Zoologisch Gaaden(dwi'n meddwl) neu'r Zoological Gardens, ble mae siopau a dadfeilion eglwys a gafodd ei fomio ond sydd bellach efo adeilad metel modern yn rhan ohono.

Hefyd cer i'r Reichstag, ac i dop y to. Y Brandenburg Gate sydd rownd y gornel. Cer hefyd i weld yr Ostbahnhoff newydd, neu'r gorsaf drennau newydd (yn cael ei hadeiladu tra'r oeddwn i yno).

Ma'r twr teledu na ar Alexanderplatz, sydd mewn ardal tlawd(dwyrain).

Mae digon o eglwysi i'w gweld ac amgueddfeydd, ond lle da i'w weld yw Potsdam. Siomedig yw gweld carchar Hess wedi ei nocio lawr, wedi taith hir i Spandau.

Prynna'r 5 day transport pass - a cofia validatio'r peth! Cafodd fy nhad a minnau ein harestio am beidio gwneud, a bygwth efo cell am 20 awr os nad oeddem yn talu'r dirwy!

PostioPostiwyd: Llun 27 Chw 2006 10:52 pm
gan Norman
Mae Checkpoint Charlie werth mynd iddo + mae digonadd o betha ail ryfel byd-aidd iw wneud yno!

PostioPostiwyd: Llun 27 Chw 2006 11:37 pm
gan Meiji Tomimoto
Os ti isho diwylliant Almaenaidd, dos i glwb Tresor. Cartref ysbrydol Tecno. Dwi dal heb gael dros y profiad.

PostioPostiwyd: Maw 07 Maw 2006 5:14 pm
gan Geraint
Nes I fwynhau Berlin anferthol, ma hi yn ddinas ardderchog I ymweld ag.

Nes I rhen fwyaf o

PostioPostiwyd: Maw 07 Maw 2006 5:21 pm
gan satswma
Meiji Tomimoto a ddywedodd:Os ti isho diwylliant Almaenaidd, dos i glwb Tresor. Cartref ysbrydol Tecno. Dwi dal heb gael dros y profiad.


Esh i ir clwb ma noson y Love Parade 2003, complitli ffacin mental! O ni ar cwrs iaith mas yn Berlin am haf ac o ni methu clywed na siarad yn gwersi am wythnos ar ol y noson yna. Ffacin cwl :D

PostioPostiwyd: Maw 07 Maw 2006 6:59 pm
gan Rhodri Nwdls
satswma a ddywedodd:
Meiji Tomimoto a ddywedodd:Os ti isho diwylliant Almaenaidd, dos i glwb Tresor. Cartref ysbrydol Tecno. Dwi dal heb gael dros y profiad.


Esh i ir clwb ma noson y Love Parade 2003, complitli ffacin mental! O ni ar cwrs iaith mas yn Berlin am haf ac o ni methu clywed na siarad yn gwersi am wythnos ar ol y noson yna. Ffacin cwl :D

Dwisio mynd i Tresor. :crio:

Rhyw ddydd.

Fuish i yn gerddi Sans souci efo Meiji! Fan'na oedd y lle roeddach chi'n gorfod gwisgo slipars am eich traed fel bo chi ddim yn amharu ar bolish y llawr?

Fydd raid i fi sganio rhai o luniau Checkpoint Charlie pan fuon ni yno yn '90.