Tudalen 1 o 2

Lle i fynd yr haf yma??

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 12:39 am
gan Huw Psych
Dwi'n trio trefnu gwylia i fi fy hun dramor yr haf yma, a mi fyswn i'n licio'ch help...does gen i ddim syniad lle i fynd!!

Oes ganddo chi awgrymiada am lefydd 'contreversial' ond hefyd rhad i fynd iddy nhw ac ar ol cyrradd?!!
Ma'r syniad o Aifft, Ciwba, Basg, neu Catalunia yn yr aer, dwi ddim isho'r gwylia arferol o fynd i ibiza i glybio bob nos, rwbath gwahanol!! :lol:

Plis rhowch eich cynnigion yn fama, ac ella os yda chi wedi bob yno, mi gewchi drio mherswadio fi i fynd yno!!

[gol. sylwer...gwyliau dramor!!]

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 1:06 am
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
sesiwn fawr, sdeddfod, miri madog, wakesdoc, sorted!

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 2:07 am
gan Tegwared ap Seion
Pwyl, sdeddfod, sesiwn fawr, ffrancwyr ddim yn ddigon Huw?! I Norwy dwish mynd, tam bach yn ddrud yno ddo :(

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 7:29 am
gan gwern
Himalayas yn India nei Nepal.

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 10:47 am
gan Ari Brenin Cymru
Sgwar Coch, Moscow.

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 12:45 pm
gan TeleriTylwythTeg
CIWBA!!!! profiad a hannar! Fyddi di'n diflasu dy ffrindia efo ffeithia di-ri am y wlad anhygoel am fisoedd!! Dwi'n argymell i bawb fynd yna o leia un waith cyn i Castro farw!! Agoriad llygad go iawn!!

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 3:05 pm
gan Blewyn
Indonesia - Orang-Utans, Jyngl, Volcanos, Traethau, Tuk-Tuks, Rambutan, Plymio, Nasi Goreng, Geckos. Llefydd i weld - Bukit Lawang, Lake Toba, Lake Maninjau, Gili Trawangan(Villa Ombok)/Gili Air, Mt Bromo, Gunug Batur, Ubud, Lovina Beach (Rambutan Cottages). Profiad wych a rhad iawn.

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 4:01 pm
gan gwern
Dwi hebdi bod gymaint o lefydd a chdi yn Indonesia Blewyn ond dwi yn cytuno mae Ubud, Lavina a Gili Trawangan yn hollol gorgous o lefydd. Ti wedi anghofio sgwenu Kuta yn Indonesia.

:lol:

Na seriously pa ynysoedd yn Indonesia sa chdi yn reccomendio heblaw am Bali. Sw nhi yn hoffi mynd yn nol i Indonesia un diwrnod. Flores a Summatra yn swnio yn appeling.

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 5:11 pm
gan Twpsan
Y Fringe!

PostioPostiwyd: Sul 26 Chw 2006 9:03 pm
gan Blewyn
gwern a ddywedodd:Dwi hebdi bod gymaint o lefydd a chdi yn Indonesia Blewyn ond dwi yn cytuno mae Ubud, Lavina a Gili Trawangan yn hollol gorgous o lefydd. Ti wedi anghofio sgwenu Kuta yn Indonesia.

:lol:

Na seriously pa ynysoedd yn Indonesia sa chdi yn reccomendio heblaw am Bali. Sw nhi yn hoffi mynd yn nol i Indonesia un diwrnod. Flores a Summatra yn swnio yn appeling.


Sumatra - fflio i Medan a mynd am trek yn Bukit Lawang (os ydy o dal if fod yna ar ol y llifogydd flwyddyn diwethaf), wedyn lawr i Bukkitingi ac i Lyn Toba am dridiau chilled, wedyn lawr i Padang i fflio i'r lle nesa. Wrth gwrs mae'na lawer mwy I Sumatra ond dyna oedd y siwrne wnes i. Mae Jakarta ei hun yn brofiad - Jalan Jacksie yn llawn cymeriadau - a mae'na le o'r enw Carita Beach o fewn ryw deirawr sy'n braf - digonedd o lefydd rhad i aros a bars/clubs ayyb. Mae'na waterfall mawr ryw ddwyawr i mewn i'r jyngl yno hefyd, lle braf i nofio.

Na'r cwbl dwi wedi weld - hoffwn drio Flores a Komodo a mynd i fyny Krakatoa rhywdro..