Tudalen 1 o 2

Barcelona, Llydaw neu Cernyw??

PostioPostiwyd: Sad 04 Maw 2006 10:31 pm
gan sion blewyn coch
Hwn fydd y cyfle cynta i mi fynd ar wyliau gyda fy ffrindiau ac wrth gwrs, da ni ddim rili isho mynd i rywle Magalwff/Tenerifeish fel bob criw chweched dosbarth arall! Ond ma gin i un broblem - lle uffar i fynd.

PostioPostiwyd: Sad 04 Maw 2006 11:46 pm
gan gethin_aj
llydaw ol ddy we!

PostioPostiwyd: Sul 05 Maw 2006 9:17 pm
gan Y Crochenydd
Mae'r tri yn swnio'n wych, ond swn i'n mynd i Lydaw. Es i am drip gyrru yno unwaith ac roedd yn un o'r gwyliau mwyaf chilled dwi 'rioed di cael. Ac mae Carnac yn le rhyfeddol: http://www.megalithia.com/brittany/carnac/ (ond mae gen i ryw fath o obsessiwn da llefydd fel hyn!).

Lle bynag ei di, joia. Ar ol fy lefel 'A' nes i a met seiclo o Gaerffili i Ddulun gyda pabell, ac mi fyddai'n cofio'r profiad am byth.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 12:18 pm
gan Wil wal waliog
Barcelona, beth ffyc sy'n bod 'da chi?! :o

Ma'r edefyn yn swnio fel c

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 12:40 pm
gan Mihangel Macintosh
Barsa Barsa!

Bwyd mor, bars, tywydd braf, tapas, celf, absynth, clybiau nos anhygoel, bywyd nos gwych, pensaerniaeth a adeiladau hanesyddol, picasso .....

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 12:46 pm
gan Nei
Llydaw a wedyn gan mod i'hn ffili'n lan a gwneud penderfyniadau mewn bywyd, elen i lawr i Barcelona mewn bys, ar fy meic, neu'n ffawd Heglu, tapwy ffordd, bydde fe werth e. Llydaw - Rhan ohona i, Barsa - Dinas orau Penrhyn Sbaen. Cernyw'n iawn, jyst gormod o saesneg.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 12:46 pm
gan penn bull
Llydaw!

Ddim yn anodd o gwbwl i deithio. Trens gwych yn fflio mynd

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 12:49 pm
gan Iesu Nicky Grist
Wil wal waliog a ddywedodd:Barcelona, beth ffyc sy'n bod 'da chi?! :o

Ma'r edefyn yn swnio fel c

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 1:21 pm
gan Jeni Wine
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Barsa Barsa!

Bwyd mor, bars, tywydd braf, tapas, celf, absynth, clybiau nos anhygoel, bywyd nos gwych, pensaerniaeth a adeiladau hanesyddol, picasso .....


eiliaf

yn enwedig os ti isio dathlu dy fod ti'n gadal rysgol...

ma'r lle yn hollol ansbaradigaethus (a dwi ddim yn defnyddio'r gair yna yn amal iawn dallta) ac yn hollol wefreiddiol

os na ti ffansi hostel, ac os oes na griw go lew ohonach chi, dos i fama i chwilio am apartment: fama Gafoni le dros nos Calan rhyw ddwy flynedd yn ol, rhwng criw mawr ohonan ni a mi oedd o'n rhatach o beth uffar na'r hotels mwya drewllyd yn yddinas.

dos i weld gymaint ag y medri di, bwyta gymaint ag y medri di, torheulo ar lan y mor efo penmaenmawr a downsio drwy'r nos yng nghlybia gwych y brifddinas. I ddeud y gwir, ma adeilada Gaudi yn werth eu gweld pan ti dal yn feddw ers noson cynt.

......a chofia fynd a llyfr Catalaneg efo chdi i neud ffrindia efo'r locals

mwynha'r diawl lwcus!

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 4:10 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Mae'n dibynnu os mai Llygoden y Wlad neu Lygoden y Dref wyt ti (yn