Mihangel Macintosh a ddywedodd:Barsa Barsa!
Bwyd mor, bars, tywydd braf, tapas, celf, absynth, clybiau nos anhygoel, bywyd nos gwych, pensaerniaeth a adeiladau hanesyddol, picasso .....
eiliaf
yn enwedig os ti isio dathlu dy fod ti'n gadal rysgol...
ma'r lle yn hollol ansbaradigaethus (a dwi
ddim yn defnyddio'r gair yna yn amal iawn dallta) ac yn hollol wefreiddiol
os na ti ffansi hostel, ac os oes na griw go lew ohonach chi, dos i fama i chwilio am apartment:
fama Gafoni le dros nos Calan rhyw ddwy flynedd yn ol, rhwng criw mawr ohonan ni a mi oedd o'n rhatach o beth uffar na'r hotels mwya drewllyd yn yddinas.
dos i weld gymaint ag y medri di, bwyta gymaint ag y medri di, torheulo ar lan y mor efo penmaenmawr a downsio drwy'r nos yng nghlybia gwych y brifddinas. I ddeud y gwir, ma adeilada Gaudi yn werth eu gweld pan ti dal yn feddw ers noson cynt.
......a chofia fynd a llyfr Catalaneg efo chdi i neud ffrindia efo'r locals
mwynha'r diawl lwcus!