Tudalen 1 o 1

Bruxelles

PostioPostiwyd: Maw 07 Maw 2006 6:26 pm
gan huwwaters
Rhywun wedi bod yma?

Yn bersonol, dwi'n meddwl bod y lle yn ace! Ma ganddo gymeriad ei hun sydd yn anodd ei ddiffinio - elfennau Ffrengig, Iseldireg, Prydeinig ac Eidalaidd.

Strydoedd gyda coed arnynt a lonydd yn ychwanegu dipyn o gymeriad Llundain i'r lle, tra bod y twneli yma ac acw yn mynd o dan y ffordd yn syniad athrylithgar o arbed lle.

Syndod oedd gweld Laura Ashely ac archfarchnad yn gwerthu Ty Nant, Llanllyr, Decantae a lwyth eraill o ddwr potel o Gymru.

PostioPostiwyd: Mer 08 Maw 2006 2:14 am
gan Y Crochenydd
Ac wrth gwrs dyma lle mae cwrw 'Careg' yn cael ei bragu. Hefyd, oes rhywyn wedi gweld (neu bod lan) yr Atomium, sef un o adaeladau mwyaf cwl Ewrop? Lle gwych, gyda iaith o'r enw Fflemish...

PostioPostiwyd: Mer 08 Maw 2006 9:44 am
gan ffrwyth melys!
Caru Brwsel! Dim ond am benwythnos fues i yno, rhyw dair i bedair blynedd yn ol. Mi es i fyny'r Atomium 8) - golygfa anhygoel. es i i'r parc 'mini europe' hefyd os dwi'n cofio yn iawn, doedd ond daflaid carreg o'r Automium - hollol ddifyr ac impressive! Y sgwar hyfryd na yng nghanol y ddinas yn drawiadol tu hwnt a thafarndai bwytai gwerth chweil yno...yn ogystal a siopau siocled rhyyy flasus o lawer! Pechod iawn oedd ei bod hi'n bwrw ac yn dywydd digon gwael pan fues i yno, a mod i wedi cael y poenau mwyaf afiach erioed yn fy mhen ar y ffleit ar y ffordd adref oherwydd annwyd diawchedig. Ond da' waeth, am fynd yn ol i Frwsel yn y dyfodol yn bendant, dinas fendigedig.

PostioPostiwyd: Mer 08 Maw 2006 9:59 am
gan Geraint
Dwi di bod yna, yn 1982 pan o ni'n bump mlwydd oedd. Cofio mynd fyny'r atomium sydd yn ardderchog. A dwi'n cofio gweld y mannequin pis sydd yn ddoniol, sef statiw o bachgen bach yn cael piss. Byddai'n braf mynd nol yno.

PostioPostiwyd: Mer 08 Maw 2006 12:33 pm
gan khmer hun
Fan hyn dastes i falafel am y tro cynta, yn un o'r cownters Twrcaidd oddi ar y Grand Place (Grote Markt).

Un o'r dinasoedd sy'n profi bod dwyieithrwydd swyddogol yn gweithio. Popeth yn ddwyieithog a dim nonsens. Yn 'y mhrofiad i, ro'n i'n gallu ryw ymlacio a joio fwy yng nghwmni'r bobol Fflemeg na'r Belgiaid Ffrengig ond falle mai damwen o'dd 'ny. O'n i'n gweld nhw'n gynnes a diddorol; yn frwdfrydig am eu diwylliant.

Amgueddfa Tintin. Perci hyfryd yn Brussel hefyd - y mwya' yn Ewrop os fi'n cofio'n iawn (falle ddim) - daliwch dram draw i rwyfo am bnawn neu whare frizbee. Lot o fands da yn whare'n Brussel 'fyd; gewch chi docynne yn siop Fnac (o, atgofion).

Ond yn bwysicaf oll yw'r cwrw hyfryd, y stondinau chips a mayonnaise, a'r siope siocled arbenigol.

Brwsel

PostioPostiwyd: Mer 08 Maw 2006 8:40 pm
gan Defi
Fuodd Dogfael yn Brwsel blwyddyn ddiwethaf, ac mae y fanylion i'w gael ar blog fe a lot o lluniau man hyn.
http://dogfael.blogspot.com/2005_05_01_ ... chive.html

PostioPostiwyd: Iau 09 Maw 2006 10:32 am
gan Mr Gasyth
khmer hun a ddywedodd:Lot o fands da yn whare'n Brussel 'fyd; gewch chi docynne yn siop Fnac (o, atgofion).


:lol: Roed Fnac yn y ganolfan siopa ar Rue Neuve wastad yn neud fy chwerthin mewn rhyw ffordd Pythnesque ar y ffordd roedd yr escalator yn cario pobl fyny yno, allan o olwg y llawr oddi tano, fel petae i ebergofiant, byth i'w gweld eto. Hawdd iawn mynd ar goll yn fnac.

PostioPostiwyd: Iau 09 Maw 2006 10:50 am
gan blanced_oren
Un o fy atgofion melysaf oedd cael brynsh omlet a sglods mewn caffi yn y grand place, gyda'r haul yn gwennu.

Hefyd wi'n rili licio'r cwrw yno. A'r siopau tsips a mayonnaise.

Mae Senedd Ewrop yn impressive hefyd.