Tudalen 1 o 3

Paris

PostioPostiwyd: Mer 15 Maw 2006 1:08 pm
gan Chwadan
Unrhyw awgrymiadau - lle i fwyta/weld/yfed/aros/strolio?

PostioPostiwyd: Mer 15 Maw 2006 9:00 pm
gan sion blewyn coch
wel yn anffodus, cefais i ddim llawer o amser i grwydro Paris pan esh i yna, ond mi ydwin gwbod bod dim pwynt mynd ir Canolfan Pompidou- craaaaaap. Gesh i reid bach mewn tour bus open-top a oedd yn wych! mynd a chdi rownd y sites llu, oedd yr arce du triamphe (sori am y sillafu!) yn cwwl iawn mewn bws open-top. Mwynha!

PostioPostiwyd: Mer 15 Maw 2006 10:30 pm
gan sara
Twr eiffel werth visit yn fy marn i de, heblaw fod y pobl bach na'n gwerthu stwff ar y gwaelod yn gallu bo'n boen. Siarad cymraeg yn beth da iawn ar adega fel hyn! Peth arall nathan ni efo nhw oedd deud petha twp mewn ffrangeg - 'je mange le salle avec ma chien' er engraifft. Ia. Siopa bob amser yn beth da, er pan odda ni yna nath na gwpwl o bobl yn dilyn ni, rhwbath i neud efo 2 ferch ar ben i hunan na siwr, ond rodd o'n iawn, diolch byth. Mwynha dy hun be bynnag ti'n neud!

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 12:19 pm
gan joni
Fyswn i'n argymell fynd i Sacre Coeur am yr olygfa bendigedig o'r ddinas ac wrth gwrs i weld yr eglwys bert...ac hefyd er mwyn gweld y pijins mwya tew yn y byd. Jyst gwylia mas am bobl yn trio gwerthu tat - ro'n nhw'n itha forceful pan o'n i yna.

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 12:24 pm
gan Mr Gasyth
joni a ddywedodd:Fyswn i'n argymell fynd i Sacre Coeur am yr olygfa bendigedig o'r ddinas ac wrth gwrs i weld yr eglwys bert...ac hefyd er mwyn gweld y pijins mwya tew yn y byd. Jyst gwylia mas am bobl yn trio gwerthu tat - ro'n nhw'n itha forceful pan o'n i yna.


Ie, affricanwyr yn trio gwrthu darnau o gortyn lliwgar, ac yn mynd reit ymosodol os nad oedd ganddoch chi ddiddordeb :ofn:

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 12:42 pm
gan Chwadan
Mr Gasyth a ddywedodd:
joni a ddywedodd:Fyswn i'n argymell fynd i Sacre Coeur am yr olygfa bendigedig o'r ddinas ac wrth gwrs i weld yr eglwys bert...ac hefyd er mwyn gweld y pijins mwya tew yn y byd. Jyst gwylia mas am bobl yn trio gwerthu tat - ro'n nhw'n itha forceful pan o'n i yna.


Ie, affricanwyr yn trio gwrthu darnau o gortyn lliwgar, ac yn mynd reit ymosodol os nad oedd ganddoch chi ddiddordeb :ofn:

Hmm, diolch! Dwi'n meddwl awn ni fyny am Sacre Coeur ta. Fues i ym Mharis efo'r ysgol ryw chwe mlynedd yn ol a do'n i'm yn licio'r lle o gwbl...ma'n cal un cyfle arall! :)

PostioPostiwyd: Sul 19 Maw 2006 4:17 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
on i wrth fy modd mynd i Paris fo'r ysgol, a swn i wrth fy modd mynd yno eto.

aetho ni lawr rhyw strydoedd bach ma a cael pryd mewn rhyw fwyty neis a band y chwara ar y stryd ayyb.

o, on i'n joio paris [gwenoglun breuddwydio]

PostioPostiwyd: Sul 19 Maw 2006 5:31 pm
gan Madrwyddygryf
Mi es i Paris am y tro gyntaf pan oeddwn yn ysgol, casau bob eiliad ! Ond dwi'n meddwl mae'r ffactorau fel aros mewn twll o hostel ieuenctid, o dan oruchwyliaeth athrawon ac gorfod gwario 3 diwrnod mewn bws gyda disgyblion arall oeddwn ddim yn hoffi wedi arwain at hynny !

Ond mi es yno blwyddyn diwethaf ac mi cefais gwerth chweil. Y tric ydi cymeryd dy amser. Gwna dim ond cwpl o bethau bob dydd,jysd mynd am dro o gwmpas y lle, gyda ambell i saib mewn caffi.

PostioPostiwyd: Sul 19 Maw 2006 9:35 pm
gan Chwadan
Madrwyddygryf a ddywedodd:Mi es i Paris am y tro gyntaf pan oeddwn yn ysgol, casau bob eiliad ! Ond dwi'n meddwl mae'r ffactorau fel aros mewn twll o hostel ieuenctid, o dan oruchwyliaeth athrawon ac gorfod gwario 3 diwrnod mewn bws gyda disgyblion arall oeddwn ddim yn hoffi wedi arwain at hynny

Es ti i Ysgol y Gader hefyd? :D

PostioPostiwyd: Sul 19 Maw 2006 10:50 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
twr eiffel yn deffinate, ond os ti yn mynd fyny, paid edrych lawr tan ti'n cyrraedd y top, felly does na ddim temptasiwn i fynd off ar y lefel cynta neu ail.

ffeindias i rhyw fyrgyr bar bach neis hefyd yn un o'r brif strydoedd hefyd, ei enw oedd mcdougals neu mcdonalds neu rhywbaeth felna, gofyn am le big mac, siwpyrb