Mae Slofenia yn wlad brydferth iawn. Fe es i interailio i ddwyrain ewrop a Slofenia ac yr Eidal yn haf '06.
Mae Ljubljana yn ddinas brydferth iawn. Werth ymweld a 1 neu 2 noson. Dim lot i wneud yna i ddweud y gwir heblaw am ymweld ar castell ac un ardal diddorol or enw Metelkova (
http://en.wikipedia.org/wiki/Metelkova).
Hen llety i'r fyddin, sydd nawr yn man creuadigol annibynnol, os mae'r lle dal yn sefyll (mae'r llywodraeth am cau y lle)
Hostel Celica yw'r lle i aros yn Ljubljana. Roedd yn llawn pryd es i. Hostelworld.com a bahn.de yn dda.
Ar ol Ljubljana, fe es i Lake Bled, yng nghogledd y wlad.
Wnes i aros mewn hostel/tafarn or enw George Best Bar: Back Packers, sy'n cynnwys darlun enfawr o George Best! Mar Robart sy'n rhedeg y lle yn gally sortio allan raftio, beicio, etc. LLe relaxed. Mae pawb yn Bled yn eitha relaxed.
Os o ni'n mynd intereilio eto, faswn i'n mynd i Croatia dwi'n credu. Rhatach ac fwy o bobl i gwrdd, ond mae Slofenia werth ei gweld.