Tudalen 1 o 2

Slofenia

PostioPostiwyd: Llun 20 Maw 2006 4:31 pm
gan Twpsan
Mae o`n troi allan mod i`n mynd i Slofenia ha' 'ma tra dwi`n gneud Interail. 'Rioed 'di ystyried y lle o`r blaen, felly allech chi argymell llefydd da i fynd/weld/aros etc plis! Diolch! :D

PostioPostiwyd: Llun 20 Maw 2006 4:56 pm
gan Norman
Rhyfadd i ti son - mi o nin sbio ar un o'r rhagleni gachu 'na 'Life in the Sun' ne be bynnag, a mi oedd gan hwnw ddarn ar Slovenia. Un ynys sydd yn yr holl wlad ! . . .

Delwedd

Bled yw enw'r dre agosa. Sori, tydwi'm yn gwybod dim arall am y wlad!

tria twrist bord
+ wiki-travel

PostioPostiwyd: Iau 23 Maw 2006 1:47 pm
gan Mici
Waw, dwi isio mynd yna rwan 8) .

Gwybod fawr ddim am y wlad dim ond bod nhw wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2000.

PostioPostiwyd: Iau 23 Maw 2006 2:13 pm
gan Dewi Lodge
Gwlad hyfryd! Di bod 'na ar wyliau 'n

PostioPostiwyd: Iau 23 Maw 2006 2:38 pm
gan Derec
Gwlad hyfryd iawn. Fe es i dros yr haf, aros yn y brif ddinas Ljublijana, ac yn disgwyl dinas eithaf eastern blocaidd llwyd (fi a fy rhagfarnau :rolio: ), ond allai ddweud mai dyna un o'r dinasoedd mwyaf hyfryd i fi ymweld a erioed. Mae'n ddinas fach iawn, gyda afon yn llifo trwy'r canol, a nifer o bontydd hyfryd a chaffis a bwytai naill ochr a'r llall. Y pensarniaeth wnaeth fy synnu i yn fyw na dim, cyfuniad anhygoel, gyda darnau yn fy atgoffa o fenis. Bwyd hefyd yn dda, cyfuniad o'r eidalaidd, awstriaidd, ac ambell i le mecsicanaidd da iawn! Mae'n ddinas hyderus, sy'n teimlo yn ifanc ac yn gyffrous iawn, gyda nifer fawr iawn o bobl ifanc yno. Roedd en teimlo fel bod y lle ddim eto wedi ei 'ddarganfod', gan fod braidd dim Americaniaid na Phrydeinwyr yno, ond nifer o Eidalwyr a phobl o'r Iseldiroedd. Es i hefyd trwy Bled, i Lyn Bohinj (ddim yn siwr am y sillafiad) sy'n dawelach a llai twristaidd na Bled. Rwy'n benderfynol o fynd nol... 8) mwynha....

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 5:38 pm
gan Fflamingo gwyrdd
'Dan ni rhwng dau feddwl i fynd i unai Slofenia neu Groatia. Roedd ffrind i fi sy'n dod yn wreiddiol o'r hen Iwgoslafia (sydd bellach a chysylltiadau yng Nghroatia) ac er ei bod hi'n falch iawn o'i gwlad, roedd hi'n deud fod Slofenia'n neishach lle (pobol neishach a mwy i'w wneud).

'Dan ni dal heb benderfynu'n iawn, felly os oes gan unrhyuwn unrhywbeth i'w ychwanegu at yr uchod, mawr fydd fy niolch...

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 5:53 pm
gan jammyjames60
Mi aeth yn chwaer i a'i chariad i Slofenia gyda chwmni antur o'r enw Activities Abroad. Treulio nhw dridiau yn mynd lawr yr Afon Soca yn gwneud pob math o bethau difyr a chyffrous.

Gwnaethpwyd gweithgareddau fel hydrospeeding, caiacio, rafftio dwr gwyn, a mi 'naethon nhw fwynhau'n arw, ac yn erbyn y diwedd, roeddynt yn teimlo eu bod wedi cyflawni rhywbedd, ac yn falch o hynny (er eu bod wedi blino'n lân am i'r wyliau dod i ben.)

Dywedon nhw bydd rhaid i chdi fod yn heini cyn mynd yna, ac yn barod i 'neud rhywbeth, oherwydd daeth amser lle 'roedd rhaid iddynt neidio oddi ar rhaeadr, a doedd dim ffordd arall lawr! Os oes angen cyffro yn eich gwyliau, mae Slovenia'n le gwych! :crechwen: :crechwen: :crechwen:

Ond gan eich bod chi rhwng dau feddwl os 'dach isio mynd i un ai Slofenia neu Groatia, beth am hyn?

Dyddiadur a lluniau

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 6:04 pm
gan Gog yn y De
Aethon ni i Slofenia, Croatia, Bosnia a Herzegovina, Montenegro llynedd ar fotor-beic. Ysgrifennon ni dyddiadur i fynd gyda'r lluniau - http://www.hiafi.co.uk/bikeTrips/Balkans/

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 6:10 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Hwnna'n wych Gog - mi ddarllenna i o nes mlaen, pan fydd y Dyn o gwmpas. Diolch 8)

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 6:31 pm
gan Gog yn y De
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Hwnna'n wych Gog - mi ddarllenna i o nes mlaen, pan fydd y Dyn o gwmpas. Diolch 8)

Mae'r iaith yn y dyddiadur yn cymysgedd: fi - Gog (Rhuthun) ond, fel mae'r enw yn dweud, dwi'n byw yn y De. Mae Amanda yn saesnes ond wedi dysgu yn y De (WLPAN, ayyb) ond yn siarad gyda fi yn y ty. Dyn ni wedi penderfynu cadw'r camgymeriadau yn y dyddiadur er mwyn iddi hi, ac efalle fi hefyd :wps:, weld sut mae'r ysgrifen yn dod 'mlaen dros y blynyddoedd.