Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 6:36 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Dwnim sawl gwaith mae rhywun yn y gwaith yn gofyn i fi (yn y de) - "Where are you from?...you've got a similar accent to me, and I'm from xxxxx (fel arfer Castell Nedd neu Caerfyrddin), but there's something odd about it"

O Sir Fôn 'dwi'n dwad...

Dwi'n gorfod atab, a deud mod i wedi fy mholiwtio...!

Ond mae'na edefyn arall am hynny'n rwla...

PostioPostiwyd: Gwe 09 Chw 2007 5:15 pm
gan wiwer
Mae Slofenia yn wlad brydferth iawn. Fe es i interailio i ddwyrain ewrop a Slofenia ac yr Eidal yn haf '06.
Mae Ljubljana yn ddinas brydferth iawn. Werth ymweld a 1 neu 2 noson. Dim lot i wneud yna i ddweud y gwir heblaw am ymweld ar castell ac un ardal diddorol or enw Metelkova (http://en.wikipedia.org/wiki/Metelkova).
Hen llety i'r fyddin, sydd nawr yn man creuadigol annibynnol, os mae'r lle dal yn sefyll (mae'r llywodraeth am cau y lle)

Hostel Celica yw'r lle i aros yn Ljubljana. Roedd yn llawn pryd es i. Hostelworld.com a bahn.de yn dda.

Ar ol Ljubljana, fe es i Lake Bled, yng nghogledd y wlad.
Wnes i aros mewn hostel/tafarn or enw George Best Bar: Back Packers, sy'n cynnwys darlun enfawr o George Best! Mar Robart sy'n rhedeg y lle yn gally sortio allan raftio, beicio, etc. LLe relaxed. Mae pawb yn Bled yn eitha relaxed.

Os o ni'n mynd intereilio eto, faswn i'n mynd i Croatia dwi'n credu. Rhatach ac fwy o bobl i gwrdd, ond mae Slofenia werth ei gweld. :D

PostioPostiwyd: Mer 22 Awst 2007 4:23 pm
gan Anka
Dw i'n dod o Slofenia yn wreiddiol. Eitha' rhyfedd gweld y pwnc 'ma!
Anka