Dos i Esquel - uffar o le da a lot o'r bobl ifanc yn dysgu Cymraeg. Ma na fwy o fywyd yn fanno nag yn Trelew/Gaiman er enghraifft (sori os dwi'n pechu). Wedi dweud hynny, mae hi werth mynd i'r Gaiman ac i Borth Madryn...
Dos i El Calafate i weld y Moreno Glaciers (doedd gena i ddim digon o amsar i fynd...
) - mae nhw i fod yn anhygoel
Dos i weld Rheadra Iguazu yng ngogledd yr Ariannin (chesh i'm cyfla i fynd i fanno chwaith)
Dos am drip diwrnod i Uruguay (trip cwch o Buenos Aires)
oia, a chofio dreulio cymaint o amsar a phosib yn BA - mae'r lle yn wych!
Dwi ddim yn meddwl gei di lot o gyfla i neud dim byd arall.
W ti wedi bwcio dy awyren efo Aerolineas Argentinas? Os felly, mi gei di dy deithiau mewnol yn rhatach. Fel arall, dos am rhai o'r cwmniau eraill achos ma AA yn codi crocbris am seti awyren i bobol o' ffwr'...
mwynha!