Cork neu Galway?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cork neu Galway?

Postiogan S.W. » Llun 03 Ebr 2006 5:59 pm

Byddai'n mynd ar fy 'stag' yn eitha buan a wedi bod yn meddwl lle i fynd. Mi roedden ni wedi meddwl am Cork ond dwi wedi cloed ers hynny bod Galway yn dda am noson allan.

Oes unrhyw rhai wedi bod i'r llefydd hyn? Ar Stag neu just ar y cwrw, Mae Galway yn apelio oherwydd yn nol be dwi di'w glywed mae na lot o dafarndai da hefo cerddoriaeth Gwyddelig ac ati.

Oes na unrhyw beth arall oni bai am feddwi'n uffernol iw wneud yno?

Sgennai ddim diddordeb mewn rhyw Blackpool o le, na chwaith clybiau nos.

Hefyd, unrhyw lefydd i aros? B+B's, gwestai rhad, hostels ayyb?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Gwyn » Maw 04 Ebr 2006 11:05 am

Di bod yn Cork ar stag... cofio dim. Lle neis wy'n credu, er ma cysgu bues i fwya ar yr ail ddwrnod. Cofio dwy afon, tri o ni'n cerdded nol i'r hostel un noson, ffili ffindo fe. Gofyn i coppers "we can't find our hostel, it's at the end of this river somewhere". Coppers: "Which river?" Ni: :ofn: :?
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Mici » Maw 04 Ebr 2006 1:05 pm

Galway yn wych, fues i mis diweddaf adeg y rygbi. Mae hi yn dref brifysgol fywiog efo tua 16,000 mil o fyfyrwyr yno, digonedd o dafarndai o bob lliw a llun a os tisho egwyl o'r yfad mae na cychod yn mynd i ynysoedd Arran a nifer o weithgareddau eraill.

Fydd dy fets wrth eu bodd yna ar 'stag' oherwydd mae na ddigon o ahem talent yno :winc: . Dwi'n awgrymu clwb o'r enw Cuba a hefyd GPO's os dach i yna tan y Sul, ond mae o leiaf dau glwb arall yno.

Hostel rhad Sleepzone ar gyrion y dref - Dria gael linc munud

Dwi di gaddo i fy hun bo fi mynd nol yna rhyw ddydd(blwyddyn yma gobeithio)
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Gwyn » Maw 04 Ebr 2006 2:46 pm

Mici a ddywedodd:os tisho egwyl o'r yfad


Ti ddim yn nabod S.W. ma'n amlwg! :winc:
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Y Crochenydd » Sul 09 Ebr 2006 9:49 am

Mae gan Galway rhai o'r tafarndai orau yn y byd ac mae'n dref ddigon bychan i ymgyfarwyddo ag ef yn reit gyflym. Mae'r clybiau lawr yn Salthill, o beth dwi'n cofio, werth ymweld a nhw hefyd. Digon o lefydd neis i fwyta 'fyd.

Ar y llaw arall, ges i amser gret tro dwethaf o'n i yn Cork. Llai 'pert' na Galway, mwy 'dinesig', ond dim yn llai 'Gwyddelig'. Siopau recordiau a bwytai gwych, o beth wy'n cofio (ewch lawr i'r 'English market' i siopa am fwyd, mae'n anhygoel). Dwi di aros yn Isaac's cwpwl o weithiau ac mae'n dda iawn. Ac mae'n werth yfed Murpheys yn lle Guinness.
http://www.cork-guide.ie/cork_city/english-market.html
http://www.isaacs.ie/hotel_isaacs_cork/ ... QgodcQmkhg

Mae'r gwahaniaith rhwng y ddau le fel y gwahaniaeth rhwng Aberystwyth ag
Abertawe.
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Siliseibyn » Sul 09 Ebr 2006 11:27 am

Fuish i'n gweithio yn Cork am gyfnod a wedi bod yn Galway unwaith neu ddwy. Cork sy'n mynd a hi bob tro i fi, o ran y bobl, diwylliant ac awyrgylch gwyddelig a pybs!! Ma nw'n bobl gwbl wahanol i weddill Iwerddon yno a ma nhw isho i rywun diarth (yn enwedig Cymru) wybod mai Cork di'r Iwerddon 'go iawn'.
Siliseibyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 63
Ymunwyd: Sad 03 Medi 2005 8:33 am

Postiogan dai mawr » Maw 18 Ebr 2006 5:27 pm

Gwyn a ddywedodd:
Mici a ddywedodd:os tisho egwyl o'r yfad


Ti ddim yn nabod S.W. ma'n amlwg! :winc:


Wel fi'n ei nabod ac yn dechrau becso na fydd yn gallu ymdopi gyda dwy sesiwn un ar ol y llall.

Felly, os oes gan unrhyw un synidau am adloniant yn Cork (modd hedfan o Gaerdydd a Lerpwl iddo) ar ddydd Sadwrn ar gyfer penwytnos Stag gadewch nhw fan hyn, i ni allu meddwl am ffordd i achub ein hafuau ni! :!:


Dim fy mod i'n trio osgoi dwy seswin jyst bof i'n meddwl byddai egwyl yng nghanol y ddwy yn braf! :lol: :lol: :lol: :lol:
Twll dy din di Ffaro!
Rhithffurf defnyddiwr
dai mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 12:37 pm
Lleoliad: Hwntw ar goll yn Rhuthun

Postiogan S.W. » Mer 19 Ebr 2006 2:06 pm

Pam y print mawr Dai? I pobl gwael eu golwg fel fi?

Cwwsg sydd isio rhwng 2 sesh nid adloniant!

Dim Golff, Dim paintballio,
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Gwyn » Iau 20 Ebr 2006 10:47 am

Be am......

'Pin the tail on the S.W.'
'Knock and runs' rownd Cork
Bwydo'r adar mewn parc
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Rhys » Iau 20 Ebr 2006 11:52 am

Gobeithio dy fod ti'n cymeryd sylw o'r newyddion heddiw S.W. y bydd llysgenhadau Prydain yn codi t
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron