Tudalen 1 o 1

Croatia

PostioPostiwyd: Sad 08 Ebr 2006 4:26 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Cyd-weithiwr wedi digwydd s

PostioPostiwyd: Sad 08 Ebr 2006 6:08 pm
gan eusebio
Varazdin fues i ar gyfer g

PostioPostiwyd: Sul 09 Ebr 2006 12:35 am
gan Y Crochenydd
Lle hyfryd. Es i am wyliau i ynys Korcula a dinas Dubrovnic tua 6/7 mlynedd yn ol. Mae Dubrovnic yn le ysblenydd; dinas o fewn waliau a adaeladwyd yn y 13eg ganrif. Mae'r mor yn las, las a'r bwyd yn rhad a medeteranaidd. Mae'r ynysoedd yn hyfryd iawn ac mae fe rili werth ymweld ag un neu ddau neu dri ohonynt. Mae'n wlad Gatholig gydag eglwysi eitha impressive (er bod e werth cofio am y defnydd o grefydd fel esgus gan y Croats i erlid y Bosnacs Mwslemaidd yn ystod chwaliad Iwgoslafia yn y 90au). Mae na glybiau a bariau cwl yna hefyd a ieuenctid eithaf 'up for it' yn eu mynychu. Dyma'r lle nath gychwyn fy ngharwriaeth gyda'r gwledydd Balkan. Mi faswn i wrth fy modd yn mynd yn ol na rhywbryd.

Hedfanais o Heathrow i Dubrovnic.

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 10:12 am
gan wiwer
Lle hyfryd. Wnes i aros yn Makarska i ddechrau, braidd yn dawel i gymharu gyda Dubrovnik.

Fe wnes i llogi cwch bach, a teithio ar hyd yr arfordir am y prynhawn i ddarganfod traethau tawel, ynghyd a mentro draw i'r ynysoedd.

Llawer o'r trigolion yn llogi ystafelloedd allan, mae nhw'n hysbysebu ar hyd y ffyrdd/gorsafoedd bysiau os wyt ti am lle rhad.

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 12:24 pm
gan Mr Groovy
wiwer a ddywedodd:Llawer o'r trigolion yn llogi ystafelloedd allan, mae nhw'n hysbysebu ar hyd y ffyrdd/gorsafoedd bysiau os wyt ti am lle rhad.

Dyna naethon ni a chael sawl lle gret am bris gwirion o rad.

Aethon ni yna o'r Eidal ar fferi dros nos i Split (Allet ti drio cael ffleit rad i Ancona/Pescara/Bari) Wedyn gymron ni daith cwch fer i ynys Brac. Bwyd m

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 1:53 pm
gan muu404
Aethon ni i le o'r enw Rabat. Roedd yn dawel na ond mwynheuon ni mas draw. So'n i'n mynd yn ol - ac rwy'n meddwl am fwcio eleni.