mi wnes i wirfoddoli efo 'cross-cultural-solutions' (methu rhoi linc, sori, ond ma'n ddigon hawdd i'w ffeindio trwy google!) mewn cartref plant anabl yn Peru. ges i fwy o drafferth chwilio am rywle i wirfoddoli nag o'n i'n ddisgwyl - am fod llawer o elsuennau/mudiadau yn nodi cyfnod gwirfoddoli minimwm (e.e. MSF yn 6 mis, VSO run peth os nad yn hirach)- a dim ond 5 wythnos o wyliau oedd gen i i sbario yn anffodus.
fues i hefyd yn Lesotho yn gweithio mewn ysbyty fel rhan o fy nghwrs. wnes i drefnu hwnnw fy hun ar ol cael manylion prifweithredwr yr ysbyty gan Dolen Cymru. ma Lesotho'n wlad hardd iawn, pobl garedig ac roedd bod yna'n agoriad llygad go iawn. dwi'n gwybod bod yna athrawon o Gymru wedi bod yn ymweld a ysgolion yn Lesotho, ond dwi'm yn hollol sicr pa brosiectau hir-dymor eraill sy ganddyn nhw ar y gweill, ond 'swn i'n meddwl byddai ganddyn nhw rywbeth i'w gynnig. bydde nhw'n sicr yn gallu rhoi arweiniad, ac roedd staff Dolen yn Lesotho yn hynod gymwynasgar a chroesawgar.
(o'r 2 - bydden i'n argymell Lesotho)