Problem i'w datrys:
Mae'r "dyn" yn mynd i Pamplona (i'r de ddwyrain o Bilbao) efo'i waith. Bydd yn cael "chauffer driven car" (posh 'de?!) i'w ddanfon o faes awyr Bilbao i Pamplona, ac mae'n daith o tua dwyawr.
(Yn digwydd bod) Mae gen i amser wedi'i gadw o'r gwaith ar gyfer yr wythnos ganlynol, ac wedi cael gwahoddiad i fynd ato. Gan nad yw Pamplona yn le mae o isho treulio mwy na'i ddwy wythnos waith yno, mae o wedi awgrymu mynd i rhywle arall yn yr un ardal-ish.
Gan gofio ei fod yn cymryd yn ganiataol bydd ei waith yn talu am ei awyren nol adra o Bilbao (mwy na thebyg), a fod Pamplona yn le anodd i'w gyrraedd heb gar, oes gan rhywun unrhyw awgrym lle y gallsan ni gyfarfod?!
(Problem ychwanegol yw ei fod yn gweithio tan y penwythnos, ac er mwyn manteisio ar flights rhatach, mi fuaswn i unai'n gorfod cyrraedd 'llebynnag' ddiwrnod neu ddau'n gynnar, a threulio amser ar ben fy hun, neu chydig ddyddia'n hwyrach a rhoi cyfle iddo fo gyrraedd 'llebynnag') - ond problem arall 'di honno. - Mi fysa awgrym o fan cyfarfod yn ddechra' da - (rhywle gellid treulio rhywfaint rhwng 3-4 diwrnod hyd at wythnos yno)
Ydi Bilbao ei hun werth arhosiad??