Tudalen 1 o 1

Paris (yn rhad)

PostioPostiwyd: Sul 07 Mai 2006 10:45 pm
gan Twpsan
Oes gan unrhyw un ohona chi enwa/manylion am hostels canolog ym mharis plis?

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 9:05 am
gan Norman
oes - nai chwylio wedi gwaith heno am enw y lle neshi aros ynddo flwyddyn dwytha - yng nghysgod y Sacre Coeur.

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 12:05 pm
gan Twpsan
O, swnio`n lyfli- diolch ti!

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 12:36 pm
gan Norman
Wedi cofio enw'r stryd, lly di ffindio enw'r lle.

Dwim yn siwr os lyfli dir gair, ond mae mewn lleoliad aidial, rhad, staff neis, gorad yn hwyr ayyb.

Le Village,
20 Rue d'Orsel,
Ardal Montmartre / Pigalle

Ir gogledd mae'r Sacre Coeur. y Moulin Rouge i'r Gorllewin, Gare du Nord [tren or maes awyr] ir Dwyrain a gweddill y ddinas i'r De!

Gwefan yr Hostel - [rhemp]
Gwefan Hostel World - Lle gellir bwcio nosweithiau, gweld llunia a gweld adolygiadau poblach.

Map 'interactive' da o Baris

Yno am benwythnos Chwe-Gwlad oni, lly neshim sylwi gymain a hynnu ar y decor ayyb, ond mi fyswn yn aros yno eto.