Un o'r lle mwya' anhygoel rioed wy wedi aros ynddo oedd yn y gwesty yma, yr Albergo il Monastero uwch tre' Ischia (mae'r graig i'w gweld yng ngefndir ffilm Talented Mr Ripley).
Ynghyd â'r hen leiandy lle mae'r gwesty y tu mewn i'r graig, mae yna ogof lle'r oedden nhw'n myfyrio am farwolaeth, oriel, caffi, clwb nos (!) a lifft o'r gwaelod, a'r olygfa mwya' anhygoel o deras y gwesty'n y nos.
Wrth bori'r we, gweld bod y lle wedi'i ailwampio a nawr yn costio 110 ewro y noson, sy' dal ddim yn bad am y lleoliad anhygoel. Ond ar y pryd, tua chwe mlynedd nol, fe gawson ni bythefnos am ryw £15 y noson, yn cynnwys brecwast a swper. Ffeindio'r lle'n y Rough Guide ar ol flight rhad i Napoli a chwch drosodd. Alla i ddim gweld fi'n gallu fforddio mynd nôl na am fwy na noson yn anffodus. Ond ewch os chi'n ddigon loaded - mae e fel nefoedd.