Eleni dwi am fynd i Inter-railio dwi'n meddwl. Yn anffodus tydi arian na gwyliau gwaith ddim am ganiatau i mi wneud fy siwrnai fawr 'rhyw ddydd, un dydd' o Gymru i Istanbul ond mae gen i gynllun amgen sef:
Sarajevo (ella diwrnod yn Mostar, ond welwch i mohonai'n croesi'r bont na!)
Budapest
Mynyddoedd y Tatry, Slovakia
Krakow
Prague
O dreulio tua tridiau ym mhob lle a gyda amser i deithio rhynddynt, gellid ei wneud mewn pythefnos a hanner. Mae Cymru'n chwarae pel-droed Ym Mhrag ar Medi 2il, ddiwrnod cyn fy mhen-blwydd felly rwyf am fod yno i honno felly rhaid gadael ganol Awst.
Mae'r daith yma'n croesi dwy 'zone' a felly'n costio £295 i hen-stejar fel fi. y broblem fwya sgen i hyd yn hyn ydi sut i gael i Sarajevo - yr opsiwn orau welai ydi hefan i Budapest a wedyn tren nos, er mae'n bechod mynd dros yr un tir ddwywaith.
Oes gan unrhywun brofiadau o inter-railio'r ardal yma, neu jest o ymweld a hwy? Unrhyw lefydd bach diarffordd dylid stopio ynddynt, neu rywbethy sydd rhaid ei weld sydd ddim o anghenraid yn y Lonely Planet? Unrhywun arall am inter-railio'r haf yma? Dwi di bod unwaith o blaen ond mi sticiais i orllewin Ewrop felly byddai'n braf cael unrhyw dips!